Os gallwch chi, codwch orchuddion ysgafn unrhyw Siambrau Archwilio, ond dim ond y rhai sydd ar eich eiddo chi. Edrychwch i weld a yw’r pibellau danddaear yn glir ai peidio, ac a yw’r ddŵr yn llifo’n rhydd. Mae gorchuddion y Siambrau Archwilio yn agos at y tŷ fel rheol, ar y dreif neu yn yr ardd.

Os yw’r pibellau danddaear yn glir, yna mae’r broblem siŵr o fod yn eich pibell carthffosiaeth breifat (a elwir yn ddraen) a’ch cyfrifoldeb chi fydd clirio’r rhwystr. Cewch alw plymwr neu gontractwr preifat i wneud hyn (chwiliwch yn y llyfr ffôn o dan ‘drain’).

Bwrwch olwg ar unrhyw bolisïau yswiriant sydd gennych ar gyfer eich cartref neu’ch adeiladau yn gyntaf, am ei bod hi’n bosibl fod gennych yswiriant am gost clirio rhwystrau.

Os yw’r broblem yn effeithio ar fwy nag un eiddo, os oes dŵr yn gorlifo y tu hwnt i ffin eich eiddo (e.e. yn y ffordd), neu os ydych chi’n gwybod bod y pibellau carthffosiaeth ar eich eiddo’n cymryd carthffosiaeth o fwy nag un cartref, yna mae’n bosibl bod y broblem ar y rhwydwaith o garthffosydd cyhoeddus. Os felly, ni sy’n gyfrifol a dylech roi galwad i ni ar

0800 085 3968

Aa