Fy Nghyfrif Eich Mesurydd Dŵr Sut i ddarllen eich mesurydd

Rydyn ni’n annog ein cwsmeriaid i ddarllen eu mesurydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn sylwi ar unrhyw gynnydd mewn defnydd yn gyflym. Ond peidiwch â cheisio darllen y mesurydd oni bai ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny.


Cynghorion wrth ddarllen eich mesurydd:

  • Bydd manylion lleoliad y mesurydd a’r rhif cyfresol ar eich bil dŵr.
  • Agorwch y caead metel ar siambr y mesurydd dŵr.
  • Os oes gorchudd polystyren gwrth-rew ar ben y mesurydd, codwch e.
  • Mae caead arall ar rai o’n mesuryddion; os oes un ar eich mesurydd chi, agorwch e i weld wyneb y mesurydd.
  • Gwnewch yn siŵr bod y rhif cyfresol ar eich bil yr un fath â’r un sydd ar eich mesurydd.
  • Nodwch y rhifau gwyn ar gefndir du, neu ddu ar gefndir gwyn (nid oes angen y rhifau coch).

Sut mae clirio dŵr anwedd o’r mesurydd?

Weithiau, os yw hi wedi bod yn bwrw glaw, bydd dŵr anwedd ar y gwydr ac ni fydd modd gweld y rhifau. Yma rydyn ni’n esbonio sut y dylech chi glirio’r dŵr anwedd er mwyn darllen y mesurydd.

Os oes magnet ar y mesurydd:

  • Gosodwch rywbeth metel dros y magnet.
  • Defnyddiwch y peth metel i symud y magnet yn ôl ac ymlaen dros ben y rhifau.
  • Pan fyddwch chi’n gallu gweld y rhifau’n glir, symudwch y magnet allan o’r ffordd a darllenwch y mesurydd.

Os oes min sychu plastig clir ar y mesurydd:

  • Symudwch y min sychu yn ôl ac ymlaen dros y rhifau.
  • Pan fyddwch chi’n gallu gweld y rhifau’n glir, rhowch y min sychu uwchben y rhifau fel eich bod chi’n gallu darllen y mesurydd.

Ble mae’r mesurydd?

Fel rheol, bydd y mesurydd yn y ddaear o flaen eich cartref, ar ffin yr eiddo, neu yn y palmant. Mewn ardaloedd gwledig, mae’n bosibl y bydd y mesurydd gryn bellter o’r eiddo. Os ydych chi’n ansicr ble mae’ch mesurydd, bydd disgrifiad byr o leoliad eich mesurydd ar eich bil.


Am ddarlleniadau’r cwmni

Rydyn ni’n ceisio darllen y mesurydd bob chwe mis, ond rydyn ni’n gwybod nad yw rhai cwsmeriaid sydd â mesuryddion yn eu cartrefi am i ni darfu arnyn nhw. Mewn achosion fel hyn, byddwn ni’n derbyn darlleniadau’r cwsmeriaid, ond bydd angen i ni gymryd ein darlleniad ein hun o leiaf unwaith bob dwy flynedd.

Aa