21/04/2010
Dwr Cymru yn cefnogi Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth
Mae Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth 2010 y Cenhedloedd Unedig yn dathlu’r amrywiaeth o fywyd ar y Ddaear, yn cynnwys pob planhigyn, anifail a micro-organeb.
Mae bioamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer cynnal y systemau byw naturiol neu ecosystemau sy’n darparu bwyd, tanwydd, iechyd, cyfoeth, a gwasanaethau anhepgor eraill inni. Nod Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth (BRB) yw cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth ar gyfer ein lles, er mwyn atal colli bioamrywiaeth a dathlu hanesion o lwyddiant.
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn aelod o bartneriaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer BRB, ac maent wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o ddiogelu adnoddau naturiol a hyrwyddo dealltwriaeth o fioamrywiaeth.
Fe ddywedodd Rheolwr Amgylcheddol Dŵr Cymru Welsh Water, Dusitaporn Thomas: “Mae BRB yn darparu cyfle inni godi ymwybyddiaeth a chyflawni’n hymrwymiadau i fioamrywiaeth. Mae’n gweithwyr yn cael eu hannog i chwilio am gyfleoedd i gyfrannu tuag at wella a diogelu bioamrywiaeth ar eu safleoedd ac yn eu cynlluniau.
“Fe fydd yna amryw o weithgareddau yn gysylltiedig â bioamrywiaeth y gall y cyhoedd gymryd rhan ynddynt yn cael eu cynnal ar ein safleoedd hamdden drwy gydol y flwyddyn, ac fe ellir canfod manylion y rhain ar ein gwefan, yn ogystal ag ar wefan swyddogol BRB.”
