Os yn wynebu problemau ariannol annisgwyl, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Byddwn yn ceisio dod i gytundeb er mwyn hwyluso talu eich bil o fewn cyfnod rhesymol ac ar lefel byddwch chi’n gallu fforddio.
Os yn wynebu problemau anfon yr arian atom oherwydd salwch neu anabledd, gallwn wneud trefniadau mwy hwylus i chi. Peidiwch ag anwybyddu problemau wrth geisio talu bil dŵr - cysylltwch â ni’n syth er mwyn i ni geisio helpu.
Efallai byddwch yn gymwys ar gyfer un neu fwy o’r cynlluniau cymorth hyn:
Bydd Canolfannau Cynghori Dinasyddion ac asiantaethau cynghori eraill yn rhoi cyngor di-dâl, annibynnol, diduedd a chyfrinachol. Mae’r rhifau ffôn yn y llyfr ffôn o dan ‘Citizens Advice Bureau’ neu yn Yellow Pages ‘counselling and advice’. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Canolfannau Cynghori Dinasyddion.