RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Glas Cymru

Glas Cymru

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145
Glas Cymru

Sefydlwyd Glas Cymru fel cwmni un diben i brynu, cyllido a rheoli Dŵr Cymru. Cofrestrwyd fel ‘cwmni cyfyngedig trwy warant’. Nid oes cyfranddalwyr gan y cwmni ac o ganlyniad mae’n gallu ail-fuddsoddi unrhyw wargedion ariannol er lles cwsmeriaid Dŵr Cymru.

O dan berchnogaeth Glas Cymru, cyllidir asedau a buddsoddiad cyfalaf Dŵr Cymru gan fondiau a gwargedion ariannol. Gwneir holl waith beunyddiol y cwmni gan bartneriaid contract arbenigol a gyflogir gan Dŵr Cymru yn dilyn proses gaffaelio gystadleuol. Nod model busnes Glas Cymru yw gostwng costau cyllido asedau Dŵr Cymru, sef prif gostau unrhyw gwmni dŵr, a gwella gwasanaethau wrth ddefnyddio’r partneriaid contract gorau ym mhob maes o’r busnes.

Hyd yma defnyddiwyd arbedion ariannol i ddatblygu cronfeydd wrth gefn y cwmni er diogelu Dŵr Cymru a’i gwsmeriaid rhag unrhyw gostau annisgwyl a gwella ansawdd ei gredyd er mwyn cadw’r costau cyllido mor isel â phosibl yn y dyfodol. Yn ogystal, defnyddiwyd yr arbedion ariannol i gyllido gwelliannau mewn gwasanaethau a’r ‘buddran cwsmeriaid’ flynyddol.

Yn yr adran hon:

Cyfarwyddwyr

Manylion cyfarwyddwyr Glas Cymru

Pwyllgorau’r Bwrdd

Manylion pedwar pwyllgor y Bwrdd

Aelodaeth

Aelodau’r cwmni a’u rolau

Buddran cwsmeriaid

Fel cwmni heb gyfranddalwyr, byddwn yn talu buddran i’n cwsmeriaid

Datganiadau ariannol

Llwytho copi o’r Adroddiad & Cyfrifon Blynyddol diweddaraf

Gwybodaeth hanesyddol

Hanes sefydlu’r cwmni

 

corner

Gwybodaeth bellach

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Adroddiad a Cyfrifon 2008

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 2.62Mb


Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Ansawdd ac Amgylchedd

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 566kb