Mae’n debyg mai ein cronfeydd dŵr yw’r grŵp pysgodfeydd brithyll mwyaf yn y Deyrnas Unedig. O ganlyniad byddant yn gweithredu fel lleoliadau nifer o gystadlaethau pysgota cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae bron pob un o’r prif gronfeydd yn agored i bysgotwyr, yn amodol ar y trwyddedau perthnasol (trwyddedau gwialenni pysgota o Swyddfa’r Post).
Yn unol â'r nod o gymell ymwelwyr i ddefnyddio adnoddau a chyfleusterau’r Cwmni, byddwn yn trefnu cyrsiau pysgota plu rheolaidd. Codir swm bach am y cyrsiau sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol yn y maes.