Mae Dŵr Cymru yn credu’n gryf mewn addysgu’r ifanc am yr amgylchedd ac wedi datblygu rhaglen o weithgareddau ar gyfer plant – Byw a Dysgu gyda Dŵr. Dyfeisiwyd nhw gan arbenigwyr addysg. Maent yn cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol ac yn rhoi cyfle i blant ysgolion cynradd ddeall y cylch dŵr a rôl hanfodol dŵr yn ein bywydau bob dydd.
Ers lansio Strategaeth Addysg y cwmni yn 2002, mae degau o filoedd o blant wedi ymweld â’n canolfannau addysg - Cilfynydd a Rhosydd Cog yn y de, Cwm Elan yn y canolbarth ac Alwen yn y gogledd. Maent yn cyflogi athrawon ar secondiad neu swyddogion amgylcheddol llawn amser er mwyn helpu plant i ddysgu am bwysigrwydd dŵr a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol fel astudio pyllau dŵr ac afonydd, safaris bwystfilod bach, ac ymchwilio pridd a mwydod. Ni fyddwn yn codi am yr ymweliadau hyn.
Yn ogystal, rydym wedi cydweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi’r fenter ‘Think Water - Dewis Dŵr’. Ers Chwefror 2004, rydym wedi cynnal oeryddion dŵr mewn 384 ysgol o fewn ardaloedd Cymunedau Gyntaf drwy’r wlad. Ar ben hynny, mae Dŵr Cymru wedi negodi contract i alluogi ysgolion i brynu potel dŵr yfed o safon am bris rhad iawn.