RYDYCH YMA > Hafan > Cymunedol, Addysg a Hamdden > Addysg > Canolfannau addysg

Canolfannau addysg

corner

Sut i gysylltu â ni

  • Ymholiadau addysgClic yma i anfon ebost neu galwch 01443 492720
Canolfannau addysg

Mae gan Dŵr Cymru bedair canolfan addysg ar draws y wlad.

Gallwch drefnu ymweliadau DI-DÂL â’r canolfannau hyn.

Alwen, gogledd

Rhedir yr ystafell ddosbarth gan athro cyfnod allweddol 2 ar secondiad. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur & teithiau o gwmpas y gwaith trin dŵr gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i ymchwilio pyllau dŵr, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal profion dosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm. Mae’r rhaglen addysg hefyd yn cynnwys arddangosfa hanesyddol o’r gwaith i adeiladu argae Alwen.

Cilfynydd, cymoedd y dde

Mae canolfan Cilfynydd wedi ennill gwobrau ac yn cynnwys ystafelloedd dosbarth dan do ac awyr agored o dan reolaeth athro cyfnod allweddol 2 ar secondiad. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur, astudiaethau Afon Taf a theithiau o gwmpas y gwaith trin dŵr gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i ymchwilio pyllau dŵr, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal profion dosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm. 

Rhosydd Cog, ger Caerdydd

Rhedir yr ystafell ddosbarth gan athro cyfnod allweddol 2 ar secondiad. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur & teithiau o gwmpas y gwaith trin dŵr gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i ymchwilio pyllau dŵr, cyfeiriadu (orienteering), mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal profion dosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol o fewn ardal gadwraeth.

Cwm Elan, canolbarth

Ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan, mae’r swyddog addysg yn rheoli ystafell ddosbarth yn llawn adnoddau defnyddiol. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau dŵr bywyd gwyllt, llwybrau natur & taith o gwmpas yr argaeau. Gall ysgolion ymweld i ymchwilio pyllau dŵr, mynd ar safaris bwystfilod bach, astudio planhigion a chynnal profion dosbarth, gyda’r holl waith yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol. Mae’r ardal yn cynnwys cyfoeth o anifeiliaid a phlanhigion, sy’n gwneud Elan yn safle bywyd gwyllt o ddiddordeb rhyngwladol.

Os am holi ymhellach, cliciwch yma i lenwi ffurflen ymholiadau ar-lein.

corner

Gwybodaeth bellach

Environmental education centres

Canolfan addysg amgylcheddo

Clic yma am PDF Acrobat o’r daflen

Ffeil: 121kb

Canolfan addysg amgylcheddol Alwen

Canolfan addysg amgylcheddol Alwen

Clic yma am PDF Acrobat o’r daflen

Ffeil: 121kb


Cilfynydd environmental education centre

Canolfan addysg amgylcheddol Cilfynydd

Clic yma am PDF Acrobat o’r daflen

Ffeil: 121kb


Cog Mors environmental education centre

Canolfan addysg amgylcheddol Rhosydd Cog

Clic yma am PDF Acrobat o’r daflen

Ffeil: 121kb


Elan Valley environmental education centre

Canolfan addysg amgylcheddol Cwm Elan

Clic yma am PDF Acrobat o’r daflen

Ffeil: 121kb