RYDYCH YMA > Hafan > Cymunedol, Addysg a Hamdden > Cefnogi cymunedau > WaterAid

WaterAid
corner

Sut i gysylltu â ni

  • Am ddysgu mwy am waith WaterAid? Clic yma
WaterAid

Mae Dŵr Cymru yn falch o gefnogi WaterAid, yr elusen genedlaethol a sefydlwyd i geisio darparu dŵr yfed diogel, rhwydweithiau carthffosiaeth ac addysg hylendid ar gyfer pobl dlawd ar draws y byd.

Yn ein 12 mis cyntaf o waith codi arian, mae staff ar draws y busnes wedi codi a chyfrannu dros £100,000 at yr elusen. Erbyn hyn rydym wedi pennu targed o godi £1 miliwn erbyn 2014.

Mae’r digwyddiadau codi arian wedi cynnwys dawnsiau elusennol a chystadlaethau ‘Dragon Boat’ ac ‘It’s a Knockout’. Fel rhan o’r ymdrechion, cododd ein rheolwr gyfarwyddwr, Nigel Annett, £10,000 mewn arian nawdd wrth gymryd rhan mewn digwyddiad beicio undydd mwyaf y byd - cymal amatur Tour de France, Etape du Tour. Ar ben hynny, mae’r cwmni wedi sefydlu loteri WaterAid sydd wedi derbyn cefnogaeth fawr gan y staff.

Yn ogystal â’r gwaith codi arian, mae ein rhwydwaith o wirfoddolwyr yn hybu ymwybyddiaeth o’r elusen a’i gwaith mewn cymunedau drwy’r wlad. Rhowch wybod os yn aelod o gorff a fyddai â diddordeb mewn dysgu mwy am waith WaterAid. Clic yma i gysylltu â ni.

corner

Gwybodaeth bellach

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Amheus? Cadwch nhw allan!

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 130kb