Mae gofal cwsmeriaid yn un o flaenoriaethau Dŵr Cymru ac rydym wedi ymrwymo i roi cymorth i ddiogelu pobl rhag galwyr ffug wrth y drws.
Byddwn yn edrych i wella gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid eiddil, anabl a hŷn ar bob amser. Er enghraifft, mae’r Cwmni yn cydweithio mewn partneriaeth â’r pedwar heddlu Cymreig a Crimestoppers Cymru i rwystro byrgleriaid wrth y drws.
Rhwystro galwyr ffug: bydd pob aelod staff yn cario cardiau adnabod neu brawf identiti. Os bydd unrhyw un yn galw arnoch ac yn methu darparu prawf o’i identiti ar gais, peidiwch â’i adael i mewn oherwydd mae’n debyg na fydd yn gweithio i Dŵr Cymru. Os bydd galwr yn gallu dangos cerdyn a’ch bod am wirio’r manylion, galwch ein llinell gymorth galwyr ffug 0800 281 141.
Cynllun cyfrinair: os yn cofrestru ar gyfer ein cynllun cyfrinair ac aelod staff yn ymweld â chi, bydd yn dyfynnu eich cyfrinair. Os na fydd galwr yn gallu rhoi eich cyfrinair, peidiwch â’i adael i mewn. Am wybodaeth bellach am y cynllun galwch 0800 0520 138.