Yn dilyn ‘penderfyniad terfynol’ Ofwat, mae ein cynlluniau a’r targedau buddsoddi am y pum mlynedd Ebrill 2005 - Mawrth 2010 yn cynnwys:
Blaenoriaethau a nodwyd gan ein cwsmeriaid, yn cynnwys:
- gostwng nifer yr adeiladau mewn perygl o wynebu llifogydd pellach wrth i garthffosydd orlifo. Bydd yn golygu taclo llifogydd mewn oddeutu 850 adeilad a llifogydd allanol yn achos 400 adeilad arall
- gostwng achosion o aroglau gwael ger 33 gwaith trin dŵr gwastraff ble derbyniwyd cwynion gan bobl leol
- gwella adnoddau 8 gwaith trin dŵr gwastraff er mwyn gostwng y tebygolrwydd o broblemau blas achlysurol gyda dŵr tap; er lles tua 400,000 cwsmer
- adnewyddu 500 cilomedr o brif bibellau dwr mewn cyflwr gwael er mwyn gostwng problemau gyda chyflenwadau dŵr oddeutu 80,000 cwsmer.
Cefnogi datblygiad economaidd wrth ddileu cyfyngiadau cynllunio ar 20,000 darpar adeilad newydd a 1,000 hectar o dir datblygu masnachol, a achoswyd gan ddiffyg cynhwysedd yn ein rhwydwaith carthffosydd
Adnewyddu dros 2,500 cilomedr o bibellau dŵr haearn heb leinin - sef bron 10% o’r rhwydwaith – gyda thua 40% o’n cwsmeriaid yn elwa o gyflenwad dŵr mwy dibynadwy
Trefnu cysylltiad carthffosiaeth cyntaf ar gyfer dros 400 adeilad
Bydd gweithredu ein cynlluniau pum mlynedd yn costio £1.2 biliwn – sef bron £1,000 ar ran pob cartref yn yr ardal