RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Gwaith y busnes > Gwasanaethau dwr gwastraff

Gwasanaethau dŵr gwastraff

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145

Yn debyg i ddŵr yfed, mae’n bwysig trin carthion a dŵr gwastraff yn effeithiol er diogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd. O ganlyniad maent yn destun rheoliadau cadarn.

Rydym yn gyfrifol am un o’r arfordiroedd hiraf o blith y cwmnïau dŵr a charthffosiaeth. Mae cynnal safon dŵr uchel ar yr arfordir yn bwysig i ddiwydiant twristiaeth Cymru, sy’n cyflogi oddeutu 100,000 ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi’r wlad. Ers 1995 rydym wedi buddsoddi dros £1 biliwn ar uwchraddio neu adeiladu gweithfeydd trin dŵr gwastraff newydd ar draws ein rhanbarth, sydd wedi helpu Cymru i gael gwobrau baner las Ewrop.

Pibellau carthffosydd – cyfrifoldeb pwy?

Dŵr Cymru sy’n gyfrifol am y carthffosydd o’r pwynt ble byddant yn ymuno â’r system garthffosiaeth gyhoeddus. Bydd llawer o adeiladau’n draenio drwy garthffosydd preifat er mwyn cyrraedd y system gyhoeddus.

Carthffosydd

Yn gyffredinol, carthffosydd preifat yw rhai heb eu hadeiladu i safonau sy’n caniatáu eu mabwysiadu o fewn y system gyhoeddus. Mae cynnal a thrwsio’r fath bibellau’n gyfrifoldeb perchnogion yr adeiladau cysylltiedig. Dros y blynyddoedd diwethaf, cododd nifer o broblemau’n gysylltiedig â charthffosydd preifat. Un o’r pennaf yw’r ffaith fod llawer o gartrefi ddim yn ymwybodol eu bod yn cysylltu â charthffosydd preifat tan fod problem yn codi sy’n galw am waith trwsio. Bryd hynny, gall achosi pryder sylweddol i bobl oherwydd costau uchel y fath waith.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cydweithio â Defra a rhanddeiliaid allweddol eraill er mwyn ceisio taclo’r broblem. Er mwyn osgoi gwaethygu’r sefyllfa, cytunwyd protocol yn 2002 sy’n argymell datblygwyr tai i adeiladu carthffosydd newydd i safonau cymeradwyedig. O ran ateb hir dymor, cymrwyd penderfyniad “mewn egwyddor” gan Lywodraeth y Cynulliad yn Chwefror 2007 i drosglwyddo carthffosydd preifat a draeniau cangen i gwmnïau carthffosiaeth. Clic yma am wybodaeth bellach.

 

corner

Gwybodaeth bellach

Côd Ymarfer Carthion yn llifo o garthffosydd cyhoeddus

Gofal Llifogydd

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 173kb

Dŵr yn gollwng o'n pibellau cyflenwi?

Dŵr yn gollwng o'n pibellau cyflenwi?

Galwch 0800 281 432 (24 awr, 7 diwrnod yr wythnos)