Sefydlwyd Glas Cymru fel cwmni un diben i brynu, cyllido a rheoli Dŵr Cymru. Cofrestrwyd fel ‘cwmni cyfyngedig trwy warant’. Nid oes cyfranddalwyr gan y cwmni ac o ganlyniad mae’n gallu ail-fuddsoddi unrhyw wargedion ariannol er lles cwsmeriaid Dŵr Cymru.
O dan berchnogaeth Glas Cymru, cyllidir asedau a buddsoddiad cyfalaf Dŵr Cymru gan fondiau a gwargedion ariannol. Nod model busnes Glas Cymru yw gostwng costau cyllido asedau Dŵr Cymru, sef prif gostau unrhyw gwmni dŵr.
Hyd yma defnyddiwyd arbedion ariannol i ddatblygu cronfeydd wrth gefn y cwmni er diogelu Dŵr Cymru a’i gwsmeriaid rhag unrhyw gostau annisgwyl a gwella ansawdd ei gredyd er mwyn cadw’r costau cyllido mor isel â phosibl yn y dyfodol.