RYDYCH YMA > Hafan > Corfforaethol > Glas Cymru > Aelodaeth > Aelodau Glas Cymru

Aelodau Glas Cymru

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145

Fe'i penodwyd yr unigolion canlynol yn Aelodau Glas Cymru Cyfyngedig. Mae’r apwyntiadau hyn yn ychwanegol i naw cyfarwyddwr y Cwmni sydd hefyd yn Aelodau Glas Cymru Cyfyngedig.

Clive Barnby Clive Barnby (Pontypridd)

Prif swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol Pontypridd Rhondda, mae gan Mr Barnby MSc mewn Rheolaeth a 26 blynedd o brofiad o’r sector iechyd. Mae’n cynnal amryw swyddi gwirfoddol/cymunedol

Nigel Beidas Nigel Beidas (Tregarth)
Brocer stoc yn ardal Bangor, gyda dros 20 mlynedd o brofiad fel arbenigwr buddsoddi. Cyn bennaeth ecwiti Confederation Life Insurance.
Nicolas Bennett Nicholas Bennett (Caerdydd)
Prif weithredwr Community Housing Cymru, mae Mr Bennett yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac o Banel Telathrebu Ymgynghorol Cymru Ofcom. Roedd gynt yn ymgynghorydd polisi rhanbarthol yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru, Brwsel, ac yn ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth y Cynulliad.
Philip Bishop Philip Bishop (Caerdydd)

Wedi ymddeol yn ddiweddar fel pennaeth cyfarwyddiaeth dŵr ac amgylchedd Llywodraeth y Cynulliad. Mae Mr Bishop yw uwch was sifil gyda blynyddoedd o brofiad ym meysydd megis yr amgylchedd, trafnidiaeth a datblygu economaidd, yn cynnwys cyfnodau yn yr Adran Fasnach a Diwydiant, y Swyddfa Gymreig ac yn ddiweddarach Llywodraeth y Cynulliad.

Martin Blake Martin Blake (Llandeilo)
Pennaeth CSR y Post Brenhinol sy'n gynghorwr diogelwch/risgiau cofrestredig. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn gweinyddu busnes, yn benodol rheolaeth gorfforaethol.
Peter Boak Peter Boak (Port Talbot)
Dadansoddwr busnes gyda Scottish & Southern Energy, mae Mr Boak wedi cynnal nifer o swyddi gweithredol a gwasanaeth cwsmeriaid gyda chwmnïau ynni.
Brian Buckley Brian Buckley (Abertawe)
Cynghorydd annibynnol mewn gwyddor dŵr, rheoli risgiau a chynlluniau argyfwng. Cemegydd siartredig sy'n gadeirydd panel cyflenwadau ac ansawdd dŵr y Sefydliad Dŵr a Rheolaeth Amgylcheddol Siartredig. Cyn ei benodi'n brif wyddonydd South West Water ym 1989, gweithiodd i Dŵr Cymru am 22 flynedd.
Byron Butler Byron Butler (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cigydd cyfanwerthu wedi ymddeol sydd wedi bod yn Ynad Heddwch ers 1978. Mae'n glerc Cyngor Cymuned Bracla ac wedi bod yn aelod o bwyllgor polisïau defnyddwyr BSi ers 1992. Roedd yn uchel siryf Morgannwg Ganol yn 1995/96.
Brian Charles Brian Charles (Penalun)
Ymddeolodd fel rheolwr gyfarwyddwr Dŵr Cymru ym 1996 ar ôl dal amryw uwch swyddi rheoli o fewn y cwmni a'r diwydiant dŵr.
David Clarke David Clarke (Penarth)
Wedi ymddeol fel cyfarwyddwr gweinyddol cwmni preifat yng Nghaerdydd. Mae'n aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai Morgannwg a Gwent ac yn dal amryw swyddi gwirfoddol a chymunedol.
Jennifer Cole Jennifer Cole (Y Barri)
Cyn swyddog cenedlaethol gyda'r Undeb Bancio, Yswiriant a Chyllid yng Nghymru. Mae wedi byw yng Nghymru ers mwy nag 20 mlynedd.
Helena Crennell Helena Crennell (Treffynnon)
Cyn was sifil fel uwch swyddog amaeth ymgynghorol gyda MAFF/ADAS. Mae Mrs Crennell yn cynrychioli Cyngor Sir Clwyd fel "unigolyn annibynnol" wrth ymchwilio i gwynion yn erbyn y gwasanaethau cymdeithasol. Yn ogystal, mae'n aelod o'r RNLI a Phanel Cynghori Dinasyddion Sir y Fflint.
Roger Dale Roger Dale (Ynys Môn)
Ymgynghorydd amgylcheddol a chyfarwyddwr anweithredol o gwmni claddu sbwriel yn y gogledd orllewin. Gweithiodd Mr Dale gyda Dwr Cymru tan 2000, gan gynnal amryw swyddi gweithredol a chynllunio asedau o fewn y busnes dwr a charthffosiaeth.
David Davies David Davies (Hendy-gwyn ar Daf)
Llywydd NFU Cymru, corff sy’n cynrychioli 15,000 ffermwr yng Nghymru. Mae Mr Davies yn ffermwr llaeth ac yn ynad lleol.
Digby Davies Digby Davies (Llansantffraid)
Mae Mr Davies (BA, MSc) yn ymgynghorydd sector dŵr oedd gynt ar staff World Bank a Thames Water. Yn ogystal mae wedi darlithio ym mhrifysgolion Warwick, Manceinion a Choleg y Drindod, Dulyn, ar wella effeithiolrwydd cyfleustodau cyhoeddus.
Elsa Davies Elsa Davies (San Clêr)

Cyn-brif weithredwr y Gymdeithas Meysydd Chwarae Cenedlaethol, addysg yw cefndir proffesiynol Mrs Davies. Ar hyn o bryd mae’n aelod o gynghorau rheoli Prifysgol Cymru a Phrifysgol Abertawe ac yn aelod o’u pwyllgorau archwilio. Mae’n gweithio gyda nifer o gyrff gwirfoddol ac yn gohebu ar gyfer tudalennau cymunedol y Carmarthen Journal. Mae’n lefftenant o’r Urdd Fictoraidd Frenhinol ac yn ddirprwy faeres San Clêr.

Siwan Davies Siwan Davies (Aberhonddu)
Pennaeth gwasanaethau deddfwriaeth a siambr Llywodraeth y Cynulliad. Dychwelodd Ms Davies i Gymru yn 2008 ar ôl tair blynedd yn Awstralia, ble roedd yn ddirprwy glerc Senedd Queensland. Mae Ms Davies yn weinyddwraig gyhoeddus brofiadol sydd wedi dal amryw swyddi gyda Llywodraeth y Cynulliad a’r hen Swyddfa Gymreig.
Geoffrey Daw Geoffrey Daw (Llandudno)
Peiriannydd sifil, mae Mr Daw yn aelod o bwyllgor gweithredol Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru. Mae wedi gweithio fel partner contract Dwr Cymru am y 15 blynedd diwethaf.
James Driscoll James Driscoll (Caerdydd)
Ymgynghorydd rheoli annibynnol. Roedd Dr Driscoll yn uwch bartner gyda PricewaterhouseCoopers gyda chyfrifoldeb am ddatblygiad economaidd rhanbarthol a mewnfuddsoddiad. Mae’n aelod o’r Bwrdd Ymgynghorol ar Ddatblygu Diwydiant Cymru sy’n cynghori Llywodraeth y Cynulliad ar gymorth ariannol ar gyfer diwydiant, ac o’r Sefydliad Materion Cymreig. Mae hefyd yn cynghori ac yn eistedd ar fyrddau nifer o fentrau masnachol Cymreig.
Anthony Ducroq Anthony Ducroq (Casnewydd)
Cynghorwr busnes gyda Menter Casnewydd a Menter Gwent. Cyflogwyd gynt gan Dŵr Cymru, ac mae ganddo fwy na 30 mlynedd o brofiad o'r sector dŵr ym meysydd gweinyddol, cyfryngau a gwasanaeth cwsmer. Yn ogystal, mae'n rhedeg busnes hynafolion gyda'i wraig.
John Egan John Egan (Aberystwyth)
Peiriannydd gwresogi hunangyflogedig sydd hefyd yn ddarlithydd NVQ gwaith plymwr gyda Chyngor Sir Ceredigion.
Angela Elniff-Larsen Angela Elniff-Larsen (Merthyr Tudful)
Prif weithredwr Menter Cymunedol Cymru, sydd wedi cynnal amryw rolau mewn cysylltiad â phrosiectau adfywio cymdeithasol ac economaidd. Cyn ymgynghorydd ymchwil economaidd, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata yn y sector cyhoeddus/llywodraeth leol.
Elizabeth Esau Elizabeth Esau (Caerdydd)
Cymraes sy'n uwch athrawes ac yn ymgynghorydd addysg ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth gwastraff yng Nghaerdydd. Gweithiodd ar secondiad fel cydlynydd addysg gyda Dŵr Cymru gan helpu i sefydlu canolfan addysg amgylcheddol gwaith trin dŵr gwastraff Rhosydd Cog a datblygu cysylltiadau gyda busnesau.
Arwyn Evans Arwyn Evans (Caerdydd)
Peiriannydd sifil sy'n gyfarwyddwr cynhyrchu gyda’r Taylor Woodrow Group (de orllewin) ble mae'n gyfrifol am iechyd a diogelwch, a'r amgylchedd. Cyn hynny gweithiodd am 15 mlynedd ym meysydd peirianneg a rheoli prosiectau ar nifer o gynlluniau peirianneg sifil yn y Deyrnas Unedig a thramor, yn bennaf yn Affrica.
Huw Evans Huw Evans (Gwdig)
Wedi ymddeol fel swyddog iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd gyda Chyngor Sir Penfro, yn dilyn dros 30 mlynedd ym maes iechyd amgylcheddol. Mae'n aseswr BSi ISO9000 cymwysedig ac roedd yn gadeirydd grŵp llywio amgylcheddol Aberdaugleddau (1995-1999).
John Evans John Evans (Y Fenni)
Cyn gyfreithiwr gyda diddordeb mawr yn yr amgylchedd - mae'n gadeirydd Ymddiriedolaeth Cwm Elan ac yn aelod o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Fforwm Afon Gwy.
Ogwyn Evans Ogwyn Evans (Caerfyrddin)
Ffermwr sy'n gadeirydd sirol o Undeb Amaethwyr Cymru. Mae hefyd yn cynrychioli dros 200 ffermwr llaeth ar fwrdd First Milk ac wedi derbyn aelodaeth gyswllt o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Prydain Fawr mewn cydnabyddiaeth o'i wasanaeth ym maes amaeth.
Philip Evans Philip Evans (Llandudno)
Cynghorydd ac ynad lleol, gweithiodd Mr Evans gyda Dwr Cymru cyn ymddeol yn 2005 ar ôl 30 blynedd mewn amryw rolau gweinyddu a chynllunio carthffosydd yn y gogledd. Mae hefyd wedi cynrychioli teithwyr rheilffyrdd y gogledd am dros 10 blynedd ac ar hyn o bryd ar banel teithwyr Arriva Trains Cymru.
Roger Evans Roger Evans (Caerfyrddin)
Ffermwr hunangyflogedig sy'n gyfarwyddwr ac yn gadeirydd cyfredol Milk Marque. Mae ganddo brofiad eang o faterion busnes a rheolaeth gorfforaethol yn y sectorau amaeth, defnydd tir ac amgylcheddol.
James Foreman-Peck James Foreman-Peck (Bro Morgannwg)
Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Economeg a Datblygiad, Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd. Mae’r Athro Foreman-Peck yn gyn-ymgynghorydd economaidd i’r Trysorlys ac yn gymrawd o Goleg St Antony, Prifysgol Rhydychen.
Robert Gilchrist Robert Gilchrist (Caerdydd)
Un o gyfarwyddwyr Cadw Cymru'n Daclus a gyfrannodd at lansio'r ymgyrch Moroedd Glas a gefnogwyd gan Dŵr Cymru. Mae'n beiriannydd sifil ac yn gymrawd o'r Sefydliad Dŵr a Rheolaeth Amgylcheddol sydd wedi gweithio yn y sector dŵr am 30 mlynedd.
Keith Gillard Keith Gillard (Rhondda)
Cyn athro a phrif arholwr daearyddiaeth sydd yn awr yn brif weithredwr Partneriaeth Addysg Busnes Morgannwg Ganol. Mae'n aelod o grŵp llywio Canolfan Addysg Cilfynydd Dŵr Cymru sydd wedi ennill nifer o wobrau.
Len Hancock Leonard Hancock (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cyfarwyddwr hyfforddiant Arena Network, canolfan sy'n cynghori busnesau Cymru ar faterion amgylcheddol. Ar ôl derbyn cymhwyster fel cemegydd, penodwyd yn gyfarwyddwr gweithredu'r cwmni profi dadansoddol Acer Consultants.
Andrew Herbert Andrew Herbert (Caerdydd)
Peiriannydd trydanol ag MBA mewn gweinyddu busnes sy'n gweithio i United Utilities (cyn hynny Dŵr Cymru).
Richard Hibbs Richard Hibbs (Llandudno)
Ymgynghorydd sydd â phrofiad academaidd cryf. Mae'n gweithio i Integral Business Support Ltd, gan gynnig cyngor a chymorth busnes ym meysydd ymchwil, gweithredu a chaffael. Cadeirydd pwyllgor safonau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Gerald Holtham Gerald Holtham (Nantymoel)
Economegydd sydd â 15 mlynedd o brofiad yn ninas Llundain. Prif swyddog buddsoddi gyda Morley Fund Management, sy'n rheoli buddsoddiadau gwerth dros £110bn. Mae hefyd yn gyfarwyddwr o'r Welsh Whisky Company.
Maurice Hughes Maurice Hughes (Hwlffordd)
Peiriannydd mecanyddol a chyn rheolwr gyfarwyddwr yn y diwydiant ceir, roedd yn arweinydd Cyngor Sir Penfro rhwng 1999 a 2004. Ar hyn o bryd, mae'n aelod o'r corff hyfforddi ELWA, yn aelod o fwrdd Canolfan Iechyd Cymru ac yn gweithredu ar ran amryw gyrff elusennol yn Sir Benfro.
Ian Hunter Ian Hunter (Abergwaun)
Ymgynghorydd rheoli datblygu sy’n gweithio’n bennaf gyda busnesau bach ac elusennau, a hefyd yn seicotherapydd a hyfforddwr gweithredol. Cyn hynny gweithiodd fel optometrydd a hyd 2005 roedd yn brif weithredwr Cymdeithas Optometryddion y DU. Mae’n aelod o Lys Prifysgol Caerdydd, a derbyniodd OBE yn 1998.
Iwan Huws Iwan Huws (Y Felinheli)

Cyfarwyddwr Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Mr Huws yn sŵolegydd ac ecolegydd o ran cymhwyster, ac yn gadeirydd Cyngor Ymgynghorol ITV Cymru. Cyn symud i’w swydd bresennol, roedd yn brif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac mae’n gyn-aelod o Gyngor Darlledu Cymru y BBC.

Julie James Julie James (Llandeilo)
Cyn gyfarwyddwr personél sydd ag amryw rolau cyhoeddus, yn cynnwys aelod lleyg Proffesiynau Iechyd Cymru, aseswr iechyd ar gyfer y Safon Iechyd Gwaith Corfforaethol, aelod o fwrdd ymgynghorol Cymru Ofcom ac yn aelod o banel camymddygiad Heddlu Dyfed Powys. Mae Mrs James hefyd yn gwasanaethu cyrff eraill ym meysydd addysg uwch a phellach, a'r amgylchedd, yn benodol fel aelod o fwrdd Cadw Cymru'n Daclus.
Sarah Jenkins Sarah Jenkins (Caerfyrddin)
Cymraes sy'n gyfrifydd siartredig hunangyflogedig ac wedi gweithio fel rheolwr contractau cyllid meddygon teulu a chynlluniwr cyllid yn y gwasanaeth iechyd. Cynrychiolodd y sector gwirfoddol ar Fwrdd Partneriaeth Amcan Un Sir Gaerfyrddin.
Bryn Parry Jones Bryn Parry Jones (Caernarfon)
Rheolwr swyddfa gyda Phrifysgol Cymru Bangor. Gweithiodd gyda Dwr Cymru cyn ymddeol ar ôl 30 blynedd o waith rheoli cyllid a gwasanaethau gweithredol.
Tegryn Jones Tegryn Jones (Caerdydd)
Prif weithredwr yr elusen amgylcheddol Cadw Cymru’n Daclus, mae Mr Jones hefyd yn aelod o Bwyllgor Diogelu Amgylchedd Ymgynghorol Cymru.
Huw Jones Huw Jones (Porth Talbot)
Peiriannydd sifil sy'n arweinydd grŵp yn adran gwasanaethau technegol (draenio a rheoli'r arfordir) Dinas a Sir Abertawe. Mae ganddo brofiad helaeth o faterion draenio a rheoli arfordiroedd.
Michael Jordan Michael Jordan (Trefaldwyn)
Cyn-Gomander gyda’r Llynges, sydd hefyd wedi profi gwaith rheoli fel ysgrifennydd a phrif weithredwr Esgobaeth Anglican Portsmouth.
Liza Kellett Liza Kellett (Caerdydd)
Prif weithredwr elusen Community Foundation yng Nghymru. Cyn hynny gweithiodd gyda chyrff mentrau cymdeithasol yn swydd Efrog, yn helpu pobl ddigartref a difreintiedig.
Joan Kostenko Joan Kostenko (Caerdydd)
Cyn berchennog gwesty/bwyty sy'n rheolwr Canolfan Cynghori Dinasyddion Aberystwyth a'r Cylch ac yn archwilydd lleyg gydag Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron Ei Mawrhydi. Mae Mrs Kostenko hefyd yn cynnal amryw rolau gwirfoddol ac elusennol.
Paul Loveluck Paul Loveluck (Caerdydd)
Llywydd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ac yn gadeirydd Tasglu Bargen Newydd Cymru. Cyn brif weithredwr Bwrdd Croeso Cymru (1984-1996) a Chyngor Cymru Wledig (1996 - 2002).
Colm McCabe Colm McCabe (Wrecsam)
Peiriannydd mecanyddol siartredig sy'n gweithio gyda Meica Process Limited, un o bartneriaid contract Dŵr Cymru. Ers graddio ag MBA mae wedi gweithio ar brosiectau cyfalaf ar gyfer amryw gwmnïau dŵr yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn rhan berchennog busnes yn Iwerddon.
Cedric Milner Cedric Milner (Ynys Môn)
Ecolegydd a chyn athro Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Cymru Bangor sy'n gweithio fel ymgynghorydd erbyn hyn. Cadeirydd Cymdeithas Eryri, aelod o Gyngor y Parciau Cenedlaethol a chyn gynghorwr gwyddonol i'r Swyddfa Gartref.
Margaret Minhinnick Margaret Minhinnick (Porthcawl)
Cyn athrawes ac un o aelodau sylfaenol a chyn brif lefarydd ar ran Friends of the Earth Cymru. Mae Mrs Minhinnick yn gyfarwyddwr Cymru Cynaladwy ac wedi ymddangos yn gyson ar y cyfryngau a llwyfannau cyhoeddus i siarad am faterion amgylcheddol.
Brian Morgan Brian Morgan (Penarth)
Cyfarwyddwr canolfan arweinyddiaeth greadigol a menter, Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae’r Athro Morgan hefyd yn gadeirydd cwmnïau Welsh Whisky a Brecon Carreg. Roedd gynt yn brif economegydd Awdurdod Datblygu Cymru ac yn uwch ymgynghorydd polisi i’r llywodraeth (yn cynnwys DTI & Pwyllgor Dethol Materion Cymreig).
Jeffrey Morgan Jeffrey Morgan (Treharris)
Ymgyngorydd amgylcheddol sydd newydd ymddeol ar ôl 40 blynedd o waith gyda diwydiant dwr Cymru, gan orffen fel rheolwr amgylchedd ac addysg.
Patrick Moriarty Patrick Moriarty (Llundain)
Is-gadeirydd Awdurdod Iechyd Gwent ac ymgynghorydd codi arian. Roedd yn gadeirydd anweithredol o Dŵr Cymru rhwng 1996 a 2001 ac chyn hynny'n aelod o bwyllgor Gwasanaethau Cwsmeriaid Cymru. Cyn berchennog cwmni adeiladu tai yn sir Fynwy.
Derek Osborn Derek Osborn (Bro Morgannwg)
Cyn uwch was sifil, Mr Osborn yw aelod y Deyrnas Unedig ar Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop ac mae’n gadeirydd Arsyllfa Datblygu Cynaladwy Ewrop. Roedd gynt yn aelod sylfaenol o Gomisiwn Datblygu Cynaladwy y DU ac yn gyfarwyddwr anweithredol o Severn Trent plc.
David Owen David Owen (Llanelwy)
Cyn ymddeol roedd yn brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. Mae Mr Owen (CBE, QPM) yn aelod o Gyngor Iechyd Cymunedol Gorllewin Conwy ac roedd yn gadeirydd Pwyllgor Defnyddwyr Trydan Gogledd Cymru 1995-2000.
David A. Ll. Owen David Lloyd Owen (Llangoedmor)
Cyn-ddadansoddwr yn y Ddinas, Llundain, mae Dr Owen yn rheolwr gyfarwyddwr Envisager, cyfarwyddwr anweithredol o EnviroGene Limited ac yn aelod o fyrddau ymgynghorol Pictet Water Fund a XPV Capital. Mae wedi cyhoeddi pum llyfr ar fusnes rheoli a marchnadoedd dŵr, dros 300 erthygl a phapur ar y sector ac yn golofnydd gyda Global Water Intelligence.
John Wyn Owen John Wyn Owen (Bontfaen)
Cadeirydd Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd. Mae Mr Owen yn gyn-ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Nuffield (corff sy'n cynnal ymchwil ac astudiaethau polisi mewn gwasanaethau echyd). Rhwng 1984 a 1994 bu'n Gyfarwyddwr GIG Cymru, Y Swyddfa Gymreig a chadeirydd Awdurdod Gwasanaethau Cyffredin Iechyd Cymru.
Simon Pickering Simon Pickering (Cas-gwent)
Cyflogir Mr Pickering gan Passenger Focus, corff defnyddwyr diwydiant rheilffyrdd y DU, fel Rheolwr Passenger Link dros Gymru. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys ymgynghorydd rheoli busnes gyda Chyngor ar Bopeth Cymru’n gweithio gyda swyddfeydd cynghori dinasyddion unigol ledled Cymru, yn benodol gyfrifol am gynhwysiad cymdeithasol a chydraddoldeb.
Eileen Pohl Eileen Pohl (Casnewydd)
Rheolwr gofal cwsmeriaid gyda Lloyds TSB cyn ymddeol, ac yn gyn-aelod o DyfrLais Cymru.
Hugh Price Hugh Price (Bro Morgannwg)
Cyfreithiwr a phartner gyda Hugh James Solicitors, Caerdydd, mae Mr Price yn arbenigo mewn materion yswiriant. Mae’n gyn-ddirprwy farnwr ardal gyda’r Uchel Lys.
Victoria Provis Victoria Provis (Llundain)
Partner gydag Odgers Ray & Berndtson (ymgynghoriaeth ymchwil flaenllaw) a phennaeth swyddfa Caerdydd. Mae ganddi brofiad helaeth ym meysydd adnoddau dynol a marchnata corfforaethol. Mae’n aelod o gyngor Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru ac yn is-gadeirydd y llywodraethwyr ac aelod o gyngor cyffredinol Coleg yr Iwerydd, Llanilltud Fawr.
Linda Rees Linda Rees (Porth Talbot)
Drafftsmon peirianneg wedi ymddeol, mae Mrs Rees wedi bod yn Ynad Heddwch ers 1981 ac mae’n is-gadeirydd Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Porth Talbot. Yn 1997 anafwyd Mrs Rees yn y ddamwain trên yn Southall ac yn 1999 daeth yn llefarydd ar ran y bobl o dde Cymru a anafwyd yn y digwyddiad.  
Martin Roblin Martin Roblin (Abertawe)
Mae Mr Roblin, sy'n wyddonydd amgylcheddol, newydd ymddeol o swydd Rheolwr Gweithrediadau Dŵr Gwastraff ar ôl gweithio yn y diwydiant dŵr yng Nghymru am dros 30 mlynedd.
Colin Rosser Colin Rosser (Aberhonddu)
Erbyn hyn wedi lled ymddeol, mae Mr Rosser yn ymgynghorydd masnach a datblygu busnes rhyngwladol. Roedd yn rheolwr gyfarwyddwr Welsh Water International Limited tan 1997, a chyn hynny daliodd amryw rolau cynllunio a datblygu busnes o fewn grwp Hyder plc.
Barbara Spanjers Barbara Spanjers (Henffordd)
Erbyn hyn yn gweithio gyda busnes cychwyn busnesau yn swydd Henffordd. Roedd Mrs Spanjers gynt wedi cynnal amryw rolau gyda chwmnïau buddsoddi preifat yn Ontario, Canada, ble roedd hefyd yn berchen busnes perllan.
David Such David Such (Cas-gwent)
Peiriannydd trydanol sydd â 30 mlynedd o brofiad yn y Deyrnas Unedig a thramor, mae'n gyfarwyddwr Such Salinger Peters (Consulting Engineers). Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau deifio, yn arbennig yn nyfroedd Cymru.
Denis Taylor Denis Taylor (Casnewydd)
Pennaeth Rheoleiddio Economaidd Dŵr Cymru a ymddeolodd yn ddiweddar ar ôl 26 blynedd gyda'r cwmni, yn bennaf yn gweithio ym meysydd rheoli cyllid a phrisiau.
Mary Taylor Mary Taylor (Crughywel)
Cyn weithiwr gofal iechyd a chynghorydd sir Powys, ar hyn o bryd mae Mrs Taylor yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae wedi ymgyrchu o blaid hawliau pobl anabl yng Nghymru, mae’n gadeirydd Grŵp Cymorth Marie Curie ac yn ymddiriedolwr Biwro Gwirfoddolwyr Crughywel. Yn ogystal mae'n gweithio i gymell menywod i gyfrannu at fywyd cyhoeddus.
Hugh Thomas Hugh Thomas (Penybont)
Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Abertawe, roedd yn gyfarwyddwr anweithredol Dŵr Cymru rhwng 1996 a 2001. Ymddeolodd ym 1995 ar ôl 41 mlynedd ym maes llywodraeth leol, gan orffen fel prif weithredwr/clerc sir Morgannwg Ganol. Ym 1999 roedd yn llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Raymond Thomas Raymond Thomas (Merthyr Tudful)
Cynghorydd ac arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a chadeirydd Awdurdod Heddlu De Cymru. Gweithiodd gyda Dŵr Cymru am 26 blynedd, ym meysydd gwasanaeth cwsmer.
Annie Thompset Anne-Marie Thompset (Pontyclun)
Pennaeth yr Ymddiriedolaeth Carbon yng Nghymru, mae'n wyddonydd amgylcheddol ac yn gyn reolwr masnachol Hyder Industrial, busnes yn hyrwyddo dulliau cynhyrchu ynni gwyrdd ar draws y Deyrnas Unedig.
Sir Adrian Webb Sir Adrian Webb (Y Bontfaen)
Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a’r Rhondda a chyn is-ganghellor Prifysgol Morgannwg. Mae gan Syr Adrian brofiad helaeth o waith archwilio, rheoli risgiau a rheoli ym meysydd iechyd ac addysg yn y sectorau cyhoeddus a dielw. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyn gyfarwyddwr ELWA ac mae wedi gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau’r llywodraeth a chyrff ymgynghorol yng Nghymru a Lloegr.

 

corner

Gwybodaeth bellach

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Adroddiad a Cyfrifon 2008

Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Ffeil: 2.62Mb


Clic yma am ffeil PDF Acrobat

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Ansawdd ac Amgylchedd

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 566kb