Doeth gyda Dŵr yn yr ysgol
Byddwch yn ddoeth gyda dŵr yn yr ysgol – ffeithiau diddorol:
- Wrth ddod i mewn i’r ysgol, mae’r dŵr yn llifo drwy’r mesurydd yn y bibell ddŵr. Darllenwch y mesurydd i gael gwybod faint o ddŵr mae’r ysgol yn ei defnyddio.
- Mae’r un faint o ddŵr ar y ddaear nawr ag yr oedd yna miliynau o flynyddoedd yn ôl. Mae hynny oherwydd y cylch dŵr.
- Mae 70% o’r ddaear o dan ddŵr ond dim ond tua 3% sy’n ddŵr croyw.
- Mae llai na chanfed o 1% o’r dŵr croyw yma ar gael i’w ddefnyddio gan blanhigion ac anifeiliaid, sy’n cynnwys pobl. Mae’r rhan fwyaf o’r dŵr ar ffurf rhew ym mhegynau’r de a’r gogledd.
- Gallwn fynd heb fwyd am fis, ond heb ddŵr byddem yn marw cyn pen wythnos.
- Dŵr yw 82% o’ch gwaed.
- Dŵr yw 72% o’ch ymennydd.
- Mae dwy ran o dair o’r dŵr glân sy’n dod i mewn i’r ysgol yn mynd i lawr y toiled.
Dyma ambell i awgrym i’ch helpu chi i arbed dŵr yn yr ysgol a lleihau bil dŵr eich ysgol.
Rhowch wybod i rywun os oes tap yn gollwng neu’n diferu.
Trwsiwch unrhyw dapiau sy’n diferu.
Trowch y tap i ffwrdd yn iawn.
Gwnewch yn siŵr nad yw’r tai bach yn defnyddio dŵr dros y gwyliau pan nad oes neb yno.
Casglwch dŵr glaw mewn casgenni er mwyn dyfrifo’r planhigion.
Rhowch reolydd llif ar y cawodydd.
Gosodwch dapiau sy’n diffodd yn awtomatig.
Trefnwch daith i un o’n canolfannau addysg er mwyn dysgu rhagor am ddefnyddio dŵr yn effeithiol.