Hafan | Am y Cwmni | Glas Cymru
Sefydlwyd Glas Cymru fel cwmni un pwrpas i brynu, ariannu a rheoli Dŵr Cymru. ‘Cwmni cyfyngedig trwy warant’ yw Glas Cymru, nid oes cyfranddeiliaid ganddo ac felly mae’n gallu ail–fuddsoddi unrhyw elw ariannol er lles cwsmeriaid Dŵr Cymru.
O dan berchnogaeth Glas Cymru, bondiau a gwargedion ariannol sy’n ariannu asedau a buddsoddiad cyfalaf Dŵr Cymru. Nod model busnes Glas Cymru yw lleihau costau ariannu asedau Dŵr Cymru, sef prif gostau unrhyw gwmni dŵr.
Hyd yma defnyddiwyd yr arbedion ariannol i ddatblygu cronfeydd wrth gefn y cwmni er mwyn diogelu Dŵr Cymru a’i gwsmeriaid rhag unrhyw gostau annisgwyl a gwella ansawdd ei gredyd er mwyn cadw’r costau ariannu mor isel â phosibl yn y dyfodol.
Manylion cyfarwyddwyr Glas Cymru.
Manylion pedwar pwyllgor y Bwrdd.
Aelodau’r cwmni a’u rolau.
Copïau o’n Datganiadau Ariannol.
Hanes sefydlu’r cwmni.