Hafan | Am y Cwmni | Dŵr Cymru Welsh Water
Dŵr Cymru yw’r chweched o ran maint o blith cwmnïau dŵr a charthffosiaeth rheoledig Cymru a Lloegr. Mae’n gyfrifol am ddarparu cyflenwadau dŵr yfed o safon uchel ar gyfer dros 3 miliwn o bobl ac am symud, trin a gwaredu eu dŵr gwastraff yn effeithiol. Wrth wneud hynny mae wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf am y gost isaf bosibl.
Ein perchennog, Glas Cymru, sydd wedi bod yn ariannu ac yn rheoli’r cwmni ers 2001. Mae Glas Cymru’n unigryw yn y sector dŵr a charthffosiaeth am ei fod yn gwmni cyfyngedig trwy warant, sy’n golygu nad oes ganddo gyfranddeiliaid.
Gwybodaeth am Gyfarwyddwyr Dŵr Cymru.
Manylion cryno yr asedau a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth.
Manylion ein Cynllun Iaith Gymraeg.
Gwybodaeth am ein prif amcanion a’n ‘cyfeiriad’ dros y 25 mlynedd nesaf.