Hafan | Am y Cwmni | Gwaith y Busnes | Gwasanaethau Dŵr Gwastraff
Yn debyg i ddŵr yfed, mae’n bwysig trin carthion a dŵr gwastraff yn effeithiol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd. O ganlyniad maent yn destun rheoliadau cadarn.
Mae un o’r arfordiroedd hiraf o blith holl gwmnïau dŵr a charthffosiaeth y sector yn ein gofal ni. Mae cynnal safonau uchel o ran dyfroedd arfordirol yn bwysig i ddiwydiant twristiaeth Cymru sy’n cyflogi rhyw 100,000 o bobl ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi’r wlad. Ers 1995 rydyn ni wedi buddsoddi dros £1 biliwn er mwyn uwchraddio neu adeiladu gweithfeydd trin dŵr gwastraff newydd ar draws ein rhanbarth. Mae hyn wedi helpu i gael baneri glas Ewrop ar draethau Cymru.
Dŵr Cymru sy’n gyfrifol am y carthffosydd o’r pwynt lle maent yn ymuno â’r system garthffosiaeth gyhoeddus. Mae llawer o adeiladau’n draenio drwy garthffosydd preifat cyn cyrraedd y system gyhoeddus.
Ar y cyfan, carthffosydd preifat yw’r rhai sydd heb eu hadeiladu i’r safonau sy’n caniatáu iddynt gael eu mabwysiadu i’r system gyhoeddus. Cyfrifoldeb perchnogion yr adeiladau dan sylw yw cynnal a thrwsio’r pibellau hyn. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o broblemau wedi codi mewn perthynas â charthffosydd preifat. Un o’r pennaf yw’r ffaith nad yw llawer o bobl yn ymwybodol bod eu cartrefi’n cysylltu â charthffosydd preifat nes bod problem yn codi sy’n galw am waith trwsio. Bryd hynny, gall costau uchel y gwaith achosi pryder sylweddol i bobl.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn cydweithio â Defra a rhanddeiliaid allweddol eraill er mwyn ceisio datrys y broblem. Er mwyn ceisio atal y sefyllfa rhag gwaethygu, cymeradwywyd protocol yn 2002 sy’n cymell datblygwyr tai i adeiladu carthffosydd newydd yn ôl y safonau cymeradwy. O ran ateb hirdymor, yn Chwefror 2007, gwnaeth Llywodraeth y Cynulliad benderfyniad ‘mewn egwyddor’ i drosglwyddo carthffosydd preifat a draeniau cangen i ofal cwmnïau carthffosiaeth.