Hafan | Am y Cwmni | Gwaith y Busnes | Strategaeth Rheoli Dŵr Wyneb

Strategaeth Rheoli Dŵr Wyneb

Image of children using the climate change model

Menter i hyrwyddo draenio naturiol er mwyn cynorthwyo’r rhwydwaith carthffosiaeth i ymdopi’n well â’r newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd mewn trefoli yw Man Gwyrdd Cymru. Ei nod yw gostwng nifer y carthffosydd sy’n gorlifo.

Tŷ rhyngweithiol ar gyfer perchnogion tai

Er mwyn helpu pobl i wneud penderfyniadau cynaliadwy ynglŷn â rheoli’r dŵr glaw sy’n disgyn ar eu cartrefi, mae Dŵr Cymru wedi datblygu tŷ rhyngweithiol.

Gallwch weld blaen a chefn y tŷ ac mae’n dangos gwahanol ddulliau o reoli dŵr glaw. Mae’r rhain yn cynnwys gosod defnyddiau hydraidd ar y llwybr a’r patio, datgysylltu pibellau dŵr glaw gan sianelu’r dŵr i ardd law, toeau gwyrdd, casgenni dŵr a chasglu dŵr glaw i’w ailddefnyddio yn y cartref.

Mae’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth ac arweiniad mewn perthynas â’r holl reoliadau cynllunio yng Nghymru a Lloegr, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ei gwefan www.planningportal.gov.uk

Casglu Dŵr Glaw

Mae cwmni peirianneg amgylcheddol ac arbenigydd dŵr o’r enw MWH yn cydweithio â Dŵr Cymru a’r gwneuthurwyr, Aqualogic, i wneud systemau casglu dŵr glaw fforddiadwy y gallwch eu rhoi ar waliau’ch cartref. Gall y rhain eich helpu i ddefnyddio llai o ddŵr ac i atal llifogydd.

Fel rhan o’n strategaeth i reoli dŵr wyneb, rydym yn datblygu system syml i gasglu dŵr glaw am bris isel. Bydd hyn yn golygu bod llai o ddŵr glaw yn mynd i’r system garthffosiaeth. I ddechrau, dim ond i dynnu dŵr y toiled y defnyddir y dŵr a gaiff ei gasglu, ond ymhen amser, efallai y bydd modd ei ddefnyddio i ddyfrio’r ardd ac at ddibenion eraill lle nad oes angen dŷr o ansawdd dŵr yfed.

Mae’r system ar brawf yn ein swyddfeydd yng Nghilfynydd a Nelson ar hyn o bryd, a bydd y gwersi a ddysgir yn bwydo treialon ar raddfa fwy.

Dŵr Wyneb a’r Ystafell Ddosbarth

Cyflwynwyd model i gyd–fynd â’r wers Newid Hinsawdd sydd ar gael yn ein canolfannau addysg. Mae’r disgyblion yn ystyried y newidiadau yn hinsawdd Prydain a’r cynnydd mewn stormydd difrifol sy’n golygu bod mwy o ddŵr glaw yn mynd i’r carthffosydd. Maen nhw’n cyflawni tasg ymarferol i weld pa mor hydraidd yw gwahanol ddeunyddiau.

Mae’r model yn dangos bod datblygiadau newydd yn codi a defnyddiau anhydraidd yn cael eu gosod lle’r oedd tir glas. Mae hyn yn dwysáu’r problemau sy’n cael eu hachosi gan ddŵr wyneb. Mewn stormydd trwm, gall y glaw orlwytho’r rhwydwaith carthffosiaeth, gan beri iddo orlifo ac achosi llifogydd.

For more information about our education centres please click here.

GCaD Cymru

CBAC sy’n rheoli Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru (GCaD Cymru) ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cylch gwaith y GCaD yw datblygu ei llyfrgell o adnoddau rhyngweithiol ar gyfer athrawon a dysgwyr ar bob lefel. Mae’r llyfrgell yn cynnwys bron i 3,000 o adnoddau addysg o ansawdd uchel y gellir eu llwytho, a phob un ohonynt yn bwydo pob Cyfnod Allweddol o’r Cwricwlwm, o Flynyddoedd Cynnar i ôl–16. Mae llawer o’r adnoddau yn rhyngweithiol, a chynhyrchwyd pob un gan athrawon go iawn.