Hafan | Am y Cwmni | Gwaith y Busnes | Carthffosydd Cyhoeddus a Rhai Preifat | Pa bibellau sy’n garthffosydd preifat?
Gwahaniaeth cyfreithiol, nid gwahaniaeth ymarferol, sydd rhwng carthffos gyhoeddus a charthffos breifat ond mae rhai rheolau cyffredinol sy’n wir fel rheol.
Mae’r cyfrifoldebau presennol yn amrywiol ac yn ddryslyd iawn a byddai’n rhaid ystyried pob achos yn unigol.
Yn y dyfodol, bydd pethau’n symlach o lawer. Dim ond am y draen sydd yn eich eiddo chi ac sy’n gwasanaethu’ch eiddo chi yn unig y byddwch yn gyfrifol.
Ni fydd y cyfrifoldeb am orsafoedd pwmpio carthion preifat na’r pibellau gwasgedd cysylltiedig yn cael ei drosglwyddo ar yr un pryd â’r carthffosydd. Y bwriad yw trosglwyddo’r rhain yn raddol hyd at fis Hydref 2016.
Bydd carthffosydd a draeniau ochrol preifat yn cael eu trosglwyddo ac yn dod yn rhan o’r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus.


