Hafan | Am y Cwmni | Gwaith y Busnes | Carthffosydd Cyhoeddus a Rhai Preifat

Carthffosydd Cyhoeddus a Rhai Preifat

Carthffosydd cyhoeddus a rhai preifat

Cafodd y Rheoliadau Trosglwyddo Carthffosydd Preifat eu trafod a’u pasio gan Lywodraeth Cymru ar 21 Mehefin. Daw’r rheoliadau sy’n ymwneud â’r trosglwyddo i rym ar 1 Gorffennaf 2011. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd Dŵr Cymru Welsh Water yn dod yn gyfrifol o 1 Hydref 2011 ymlaen am rai pibellau carthffosiaeth sy’n eiddo i berchenogion cartrefi a busnesau ar hyn o bryd.

Cefndir Trosglwyddo Carthffosydd Preifat

A wyddech chi hyn?  Os nad yw’ch carthffosydd wedi cael eu mabwysiadu’n ffurfiol, neu bod eich cartref wedi’i adeiladu cyn 1937, chi sy’n gyfrifol am y bibell sy’n cludo dŵr gwastraff o’ch cartref i’r garthffos gyhoeddus, yn cynnwys y rhan sy’n mynd o dan y briffordd.

Weithiau fyddwch chi ddim yn sylweddoli hynny nes bod problem yn codi a bod angen gwaith trwsio neu gynnal a chadw ar y garthffos. Bryd hynny, mae’r holl gartrefi sydd wedi’u cysylltu â’r garthffos honno yn gorfod talu am y gwaith.

Mae’r ‘Newid Mawr i Garthffosydd’ yn golygu y bydd perchenogaeth llawer iawn o garthffosydd preifat y mae perchenogion tai a busnesau’n gyfrifol amdanynt ac yn berchen arnynt ar hyn o bryd yn cael ei throsglwyddo i Ddŵr Cymru gan Reoliadau’r Llywodraeth. Disgwyliwn y bydd y newid hwn yn golygu y bydd cyfanswm hyd y rhwydwaith dŵr gwastraff y mae Dŵr Cymru’n gyfrifol amdano yn dyblu.

Er y bydd hyn yn golygu llawer iawn rhagor o waith i ni, mae Dŵr Cymru o blaid y trosglwyddo gan ein bod o’r farn ei fod er budd ein cwsmeriaid ac y bydd yn:

  • Cael gwared â’r baich annheg ar gwsmeriaid sydd â’r pibellau hyn
  • Gwneud sefyllfa perchenogaeth a chyfrifoldebau yn gliriach o lawer
  • Sicrhau bod cost gwaith cynnal a chadw a gwaith trwsio yn cael ei dosbarthu’n fwy teg

Ond rhaid bod yn amyneddgar – er y bydd y cyfrifoldeb yn newid dros nos, rhaid peidio á disgwyl i’r holl broblemau gael eu datrys yn syth. Mae llawer o’r rhwydwaith carthffosydd mewn cyflwr gwael a bydd hynny’n cymryd peth amser i’w ddatrys. Gallwn eich sicrhau y byddwn yn clirio’r carthffosydd yn syth os byddant yn blocio ond bydd raid i ni flaenoriaethu gwaith trwsio mawr er mwyn datrys y problemau pwysicaf yn gyntaf.

Yn yr adran hon

Pa bibellau sy’n garthffosydd preifat?

Gwybodaeth manwl ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng Carthffosydd (preifat a cyhoeddus).

Ffilmiau esboniadol

Trosglwyddo Carthffosydd Preifat Gwyliwch ein ffilm neu, ein clip newyddion i ddeall mwy.

Llythyr i'r cwsmer a llyfryn gwybodaeth

Fe fydd y llyfryn a'r llythyr uchod yn glanio ar eich stenpen drws yn ystod Gorffennaf.