02/07/2012

Hwyl ffilm a blodau i’r teulu yng Nghwm Elan

Mae beirniaid ffilmiau a selogion blodau yn cael eu gwahodd i dreulio’r noson yn y sinema neu i fwynhau crwydr drwy’r dolydd gyda Pharcmyn Cefn Gwlad Dŵr Cymru Welsh Water yn Stad Cwm Elan y penwythnos hwn.

Ddydd Gwener, y 6ed o Orffennaf, am 7.00 yr hwyr, fe fydd y Ganolfan Ymwelwyr yn dangos dangosiad arbennig o ffilm fer newydd ar y sgrin sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig ar gyfer Olympiad Diwylliannol Llundain 2012, ac mae’n arddangos lleoliadau golygfaol o amgylch Cwm Elan.

Mae ‘Turning Points’ wedi’i chynhyrchu gan yr arlunydd o Raeadr Gwy, Chris Tally Evans, ac mae’n cynnwys y cyn-Olympiad, Jamie Baulch, a’r actor Hollywood sydd bron yn chwedlonol, Roger Moore, ochr yn ochr a’r plant ysgol lleol, Morgan Evans a Daniel Chapman.

Mae’r ffilm yn cynnwys chwe stori, a’i nod yw profi y gall munudau sy’n newid ein bywydau, boed chi’n enwog, cyfoethog ac yn berson o fri, yn anabl, tlawd neu’n ei chael hi’n anodd, adael pobl mewn lle sy’n well ac sy’n ysbrydoli.

Am fwy o wybodaeth am y ffilm neu am y digwyddiad sgrinio am ddim, cysylltwch, os gwelwch yn dda, a Chris ar 01597 811154.

Drannoeth (dydd Sadwrn, y 7 fed o Orffennaf), fe gaiff selogion planhigion y cyfle i borthi’u hangerdd a mwynhau crwydr hamddenol drwy ddolydd blodeuog Cwm Elan.

Fe ddylai’r sawl sy’n cymryd rhan gyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr (Cyfeirnod Grid SN 928646) am 2.00 y pnawn am daith gerdded hamddenol o amgylch y ddol yng nghwmni parcmon cefn gwlad, sy’n gyforiog o gyngor a gwybodaeth am y blodau gwyllt sy’n trigo yn yr ardal.

Fe ddywedodd y Prif Barcmon Cefn Gwlad, Sorcha Lewis, “’Rydym yn llawn cyffro o fod yn croesawu’r arlunydd lleol Chris Tally Evans i Stad Cwm Elan am y tro cyntaf y penwythnos hwn, ac ‘rydym yn gwirioneddol edrych ymlaen at weld ei greadigaeth orffenedig a’r delweddau o’r ardal leol sy’n cael eu hanfarwoli ar ffilm am byth.

“Fe all y sawl sy’n cymryd rhan ar daith gerdded y dolydd ddisgwyl gweld amrywiaeth o blanhigion, yn amrywio o degeirianau eiddil, per eu harogl at rai o’n planhigion pryfysol brodorol sy’n tyfu yn yr ardal. Mae pobl yn cael eu cynghori i wisgo hylif cadw pryfed draw, dillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd, ac fe allant ddisgwyl dychwelyd o’r daith gerdded am oddeutu 4.00 y pnawn.”

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn neu am unrhyw weithgareddau eraill sy’n digwydd yng Nghwm Elan, cysylltwch, os gwelwch yn dda, a swyddfa’r parcmyn ar 01597 810880.