14/06/2012

Mae Dŵr Cymru yn cwblhau buddsoddiad gwerth £52 miliwn yn ne-orllewin Cymru yn 2011-12

Mae gwerth £82 miliwn yn rhagor o waith yn awr wedi’i ddechrau

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn adrodd bod buddsoddiad yn ne-orllewin Cymru yn ystod 2011/12 wedi cyrraedd £52 miliwn – ac mae rhagor o wariant o £82 miliwn ar y gweill eleni i gynnal gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i gwsmeriaid.

Gan gyhoeddi’u canlyniadau ariannol am y flwyddyn ddiwethaf, fe adroddodd Dŵr Cymru Welsh Water bod eu rhaglen wario ar y llwybr cywir i gyflawni hwb uchelgeisiol gwerth £1 biliwn i seilwaith gwasanaethau dŵr drwy’u hardal i gyd dros y tair blynedd nesaf.

‘Roedd cyfanswm y gwariant yn ne-orllewin Cymru yn ystod 2011/12 ar raglenni cynnal a chadw ar gyfer systemau dŵr yfed a dŵr gwastraff y cwmni yn £27 miliwn, gyda buddsoddiad dros y flwyddyn o £20 miliwn yn cael ei wario ar gyflawni gwelliannau i ansawdd dŵr yfed a’r amgylchedd. Fe wnaed buddsoddiad gwerth £2 filiwn i gymorth twf economaidd drwy sicrhau cynhwysedd rhwydwaith digonol ar gyfer datblygiadau newydd, ac fe fuddsoddwyd £3 miliwn yn rhagor i liniaru’r perygl o lifogydd carthion i eiddo.

Fe gwblhawyd buddsoddiad hefyd ar gyfleuster treulio anaerobig datblygedig gwerth £29 miliwn yng ngwaith trin dŵr gwastraff Afan. Mae’r cyfleuster yn echdynnu nwy methan o ddŵr gwastraff, sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r trydan cyfwerth y byddid ei angen i bweru 3,500 o gartrefi. Mae gostyngiad yn y ddibyniaeth ar bŵer o danwydd ffosil yn galluogi Dŵr Cymru i gadw biliau cwsmeriaid i lawr.

Fe wnaeth yr ardal hefyd elwa oddi wrth ran o fuddsoddiad gwerth £9 miliwn ledled De Cymru i leihau gollyngiadau o rwydwaith enfawr y cwmni o bibellau dŵr.

Fe ddywedodd rheolwr gyfarwyddwr Dŵr Cymru Welsh Water, Nigel Annett, “’Rydym yn buddsoddi’n hael mewn prosiectau yn ne-orllewin Cymru, gan uwchraddio’r rhwydwaith dŵr gwastraff i leihau hyd yr eithaf ar effaith ein gweithrediadau ar yr amgylchedd a hefyd i ddiogelu eiddo rhag y perygl o lifogydd o garthffosydd, fel ei gilydd.

“Yn ystod 2011/12, fe wnaed buddsoddiad i wella a chynyddu cynhwysedd y gweithfeydd trin dŵr gwastraff ac allfeydd gorlif y rhwydwaith. Fe wnaethom hefyd gwblhau’r gwaith o osod gwaith treulio anaerobig yng ngwaith dŵr gwastraff Afan ym Mhort Talbot i ddal nwy o ddŵr gwastraff a’i drosi o i fod yn drydan.

“’Rydym yn cynyddu lefelau buddsoddi yn yr ardal hon yn ystod 2012/13, gan ganolbwyntio ar welliannau i brosesau gweithredu mewn amryw o weithfeydd trin dŵr gwastraff eraill, yn cynnwys ein gwaith yn Abertawe, a chynlluniau ychwanegol i liniaru llifogydd o garthffosydd, yn cynnwys cynllun Llansawel, sydd eisoes wedi hen ddechrau.

“Mae’n buddsoddiad mewn triniaeth dŵr gwastraff o fudd i’r amgylchedd drwy helpu i wella ansawdd afonydd a dŵr ymdrochi arfordirol - sy’n cyfrannu at nifer y traethau Baner Las sydd gennym yng Nghymru.”

‘Roedd uchafbwyntiau buddsoddiad yn 2011/12 yn cynnwys cynlluniau mawr ar y rhwydwaith dŵr gwastraff yng Nghastell Nedd, Abertawe a Sir Benfro, ynghyd â phrosiect i wella’r amgylchedd yng ngwaith trin dŵr gwastraff Aberporth yng Ngheredigion.

Mae rhagor o fuddsoddiad gwerth £82 miliwn eisoes ar y gweill neu wedi’i gynllunio yn ne-orllewin Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, 2012/13. Mae £36 miliwn yn cael ei wario ar weithiau cynnal a chadw, gyda £38 miliwn ar gyfer gwelliannau i ansawdd dŵr yfed a’r amgylchedd. Mae buddsoddiad gwerth £3 miliwn wedi’i gynllunio i gymorth twf drwy sicrhau bod yna gynhwysedd rhwydwaith ar gyfer datblygiadau newydd, gyda £5 miliwn yn rhagor yn cael ei ddyrannu i gynlluniau i liniaru’r perygl o lifogydd carthion i eiddo.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn ‘gwmni nid-er-elw’ sydd wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru ers 2001. Nid oes ganddo gyfranddalwyr, ac mae unrhyw wargedion ariannol yn cael eu hail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid.

Cliciwch yma i weld map o'r buddsoddiad.

Gorffen

Ymholiadau i swyddfa gwasg Dŵr Cymru Welsh Water ar 029 2055 6140.

Uchafbwyntiau am y flwyddyn

Canlyniadau Ariannol

Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Yr Amgylchedd