11/06/2008
Y mae Dwr Cymru Welsh Water i ddychwelyd £27 miliwn i’w cwsmeriaid
Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw yn cyhoeddi’u canlyniadau rhagarweiniol am y flwyddyn sy’n diweddu ar yr 31ain o Fawrth, 2008 – sy’n dangos rhagor o enillion mewn effeithlonrwydd a nerth ariannol.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water ym mherchenogaeth Glas Cymru, sy’n unigryw ymysg cwmniau cyfleustod y Deyrnas Unedig yn yr ystyr nad oes ganddynt gyfranddalwyr a’u bod yn ail-fuddsoddi’u holl wargedion ariannol er budd cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water.
Dwr Cymru Welsh Water yw’r unig gwmni dwr yn y Deyrnas Unedig i roi ‘buddran cwsmeriaid’ flynyddol, a wna godi i £21 i bob cwsmer eleni, ar gyfanswm cost o £27 miliwn. Fe ddaw hyn a chyfanswm gwerth ‘buddrannau cwsmeriaid’ i fwy na £120 miliwn a ddychwelir i gwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water ers i Glas Cymru gaffael y cwmni saith mlynedd yn ol.
Y mae uchafbwyntiau am y flwyddyn yn cynnwys:
- Fe wnaeth y ‘fuddran cwsmeriaid’ am 2008-09 gynyddu i £21 i gwsmeriaid sy’n derbyn gwasanaethau dwr a charthffosiaeth, fel ei gilydd (2007: £20 i bob cwsmer);
- Fe fydd buddsoddiad cyfalaf o fwy na £300 miliwn, y lefel uchaf erioed gan Dwr Cymru Welsh Water, o fudd i gwsmeriaid; er enghraifft drwy leihau’r perygl o garthffosydd yn gorlifo yn y dyfodol;
- Lleihau gollyngiadau, gan gyrraedd targed Ofwat ar gyfer gollyngiadau am y ddegfed flwyddyn yn olynol;
- Perfformiad ariannol cryf, gyda gerio’n cael ei ostwng i 72% (o gymharu a 93% ym mis Mai 2001);
- Gwell statws credyd, gydag uwch-fondiau’n cael eu huwchraddio’n ddiweddar i radd A, a ddyfarnwyd gan Standard and Poor’s.
Fe ddywedodd Cadeirydd Glas Cymru, yr Arglwydd Burns, “Y mae cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water yn parhau i weld y buddion o’n model busnes unigryw – gan dderbyn ‘buddran cwsmeriaid’ sydd wedi codi’n gyson i gyrraedd £21 eleni. Y mae cwsmeriaid hefyd yn gweld buddion o’n rhaglen buddsoddi cyfalaf fwyaf erioed, gyda mwy na £300 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan esgor ar welliannau i wasanaethau cwsmeriaid, ansawdd dwr yfed a’r amgylchedd.”
Fe wnaeth yr Arglwydd Burns hefyd ganmol staff Dwr Cymru Welsh Water a’r cwmniau sy’n bartneriaid iddynt am eu hymateb i amgylchiadau tywydd neilltuol o anffafriol yn ystod y deuddeng mis diwethaf. Fe wnaeth digwyddiadau o lifogydd yn yr haf, yn enwedig yn swydd Henffordd, a haf eithriadol o wlyb yn gyffredinol greu heriau ychwanegol o ran cynnal cyflenwadau i gwsmeriaid a chynnal ansawdd dwr yfed.
“Y mae boddhad cwsmeriaid gyda’r gwasanaeth a’r gwerth am arian a ddarperir gan Dwr Cymru Welsh Water yn parhau i fod yn uchel iawn, er gwaethaf amryw o heriau allanol yr oedd yn rhaid inni ymdopi a hwynt dros y flwyddyn ddiwethaf,” fe barhaodd. “Yr wyf yn hyderus y gall cwsmeriaid edrych ymlaen at hyd yn oed lefelau uwch o wasanaeth oddi wrth Dwr Cymru Welsh Water yn y dyfodol, o ganlyniad i’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad yr ydym yn gwneud yn y busnes, yn cefnogi ymrwymiad a phroffesiynoldeb ein pobl.”
Y canlyniadau yn fanwl:
Buddion i gwsmeriaid a pherfformiad gweithredol:
- fe gynyddodd ‘buddran cwsmeriaid’ eleni i £21 i bob cwsmer ar gyfanswm cost o £27 miliwn (2007: £26 miliwn). Y mae’r ‘fuddran cwsmeriaid’ wedi cynyddu’n gyson ers iddi gael ei chyflwyno gyntaf yn 2003 ar £9 i bob cwsmer;
- gostyngiad o 18% yn nifer y cwsmeriaid sy’n dioddef oddi wrth lifogydd carthffosydd mewnol o ganlyniad i rwystrau, dymchweliadau neu garthffosydd wedi’u gorlwytho;
- y cydymffurfiad gorau erioed a’r safonau am haearn mewn dwr - canlyniad i bron 3,500 cilometr o brif bibellau dwr haearn heb eu leinio yn cael eu newid neu’u hadnewyddu ers mis Ebrill 2000;
- yn nhymor haf 2008, y mae gan Gymru 47 o draethau a marinau Baner Las (2007: 49 o Faneri Glas), oddeutu traean o gyfanswm y Deyrnas Unedig;
- ar iechyd a diogelwch, 17% o ostyngiad mewn damweiniau y mae’n rhaid rhoi adroddiad amdanynt;
- cyrraedd y targed mewn gostwng nifer y gollyngiadau, targed a bennwyd gan Ofwat am 2007/08 – gyda 50 o ollyngiadau a rhwygiadau’n cael eu hatgyweirio bob diwrnod;
- parhad mewn boddhad uchel ar ran cwsmeriaid o fwy nag 80%, fel a fesurwyd gan ymchwil dilyn annibynnol;
- 40% o gynnydd yn nifer y galwadau gan gwsmeriaid i’n llinell Gymraeg bwrpasol;
Rhaglen buddsoddi cyfalaf enfawr:
- buddsoddiad cyfalaf o £301 miliwn (2007: £269 miliwn) sydd o fudd i wasanaethau i gwsmeriaid, ansawdd yr amgylchedd ac ansawdd dwr yfed;
- darogan y bydd cyfanswm buddsoddiad dros y cyfnod AMP4 (2005 i 2010) yn £1,400 miliwn (sy’n gyfwerth a mwy na £1,000 o fuddsoddiad ar gyfer pob cwsmer a wasanaethir);
- cyfanswm buddsoddiad cyfalaf ers mis Ebrill 2005 o £807 miliwn (57% o’r cyfanswm AMP4 disgwyliedig);
- 440 cilometr o brif bibellau dwr haearn heb eu leinio’n cael eu newid neu’u hadnewyddu (2007: 350 cilometr);
- rhaglen enfawr o fuddsoddi amgylcheddol, gan wella 91 o orlifoedd carthffosydd a lliniaru’r perygl o garthffosydd yn gorlifo i dros 400 eiddo.
Perfformiad ariannol cryf:
- y mae’r ddyled net wedi’i gostwng i 72% o Werth Cyfalaf Rheoliadol (RCV), i lawr 2% dros y flwyddyn;
- yr elw cyn treth (ond heb gynnwys y symudiadau gwerth teg ar offer ariannol) oedd £14 miliwn (2007: £2 filiwn), a gedwir yn y busnes er budd cwsmeriaid yn y dyfodol;
- costau gweithredol o £231 miliwn (2007: £229 miliwn), gostyngiad mewn gwir dermau o 3%;
- Fe wnaeth Standard and Poor’s, yr asiantaeth statws credyd, godi’u graddfa o fondiau dosbarth B y cwmni o A- i A, ac o’r bondiau dosbarth C o BBB i BBB+, gan adlewyrchu gwell ansawdd credyd y cwmni;
- Cyllid prydles o £85 miliwn yn cael ei godi yn y flwyddyn, gan gryfhau’r sefyllfa hylifedd gref.
Canlyniadau rhagarweiniol
Cliciwch yma i weld
ein podcast canlyniadau
Newyddion o Dwr Cymru
Nodiadau i Olygyddion:
- Fe ffurfiwyd Glas Cymru ym mis Ebrill 2000 er yr unig ddiben o gaffael Dwr Cymru Welsh Water. Y mae’n ‘gwmni cyfyngedig trwy warant’, wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Cwmniau 1985. Nid oes gan Glas Cymru gyfranddalwyr. Yn hytrach, y mae Aelodau’n ymgymryd a rol rheolaeth gorfforaethol bwysig ond nid ydynt yn derbyn buddrannau ac nid oes ganddynt unrhyw fuddiant ariannol arall yn y Cwmni. Y mae’r strwythur corfforaethol hwn yn sicrhau bod yr holl wargedion ariannol a gynhyrchir yn cael eu cadw a’u hail-fuddsoddi er budd a lles Dwr Cymru Welsh Water a’u cwsmeriaid.
- Y mae cyfansoddiad Glas Cymru yn cyfyngu’n gaeth ar ei ddiben i’r diben hynny o ariannu asedau dwr o fewn ardal cyfrifoldebau Dwr Cymru Welsh Water a rheoli busnes Dwr Cymru Welsh Water fel bod gwasanaethau dwr a charthffosiaeth o ansawdd uchel yn cael eu darparu ar y gost leiaf i’r cymunedau a wasanaethir gan Dwr Cymru Welsh Water. Ni all Glas Cymru arallgyfeirio i weithgareddau masnachol anghysylltiedig eraill.
- Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn rhoi’r ddarpariaeth o wasanaethau gweithredol a gwasanaethau cwsmeriaid a’r gwaith o ddarparu’u rhaglen fuddsoddi ar gontractau allanol. Y mae’n gweithio’n agos mewn fframwaith o bartneriaeth gydag arbenigwyr yn y diwydiant, gan ddarparu perfformiad busnes sy’n gwella ac sydd o fudd i gwsmeriaid.
- Fe wnaeth amgylchiadau tywydd gwlyb digynsail drwy lawer o’r ardal a wasanaethir gan Dwr Cymru Welsh Water arwain at amgylchiadau dwr crai gwaethygol ac at her enfawr i gynnal ansawdd y dwr yfed. Er gwaethaf rhai gostyngiadau ymylol mewn rhai mesurau ansawdd, cydymffurfiad cyffredinol dwr yfed (cydymffurfiad cylchfaol cymedrig) mewn mwy na 300,000 o brofion ansawdd yn 2007 oedd 99.93% (2006: 99.95%).
- Ar “Asesiad Perfformiad Cyffredinol” blynyddol Ofwat, sy’n nodi perfformiad ar fasged o fesurau sy’n ymdrin ag ansawdd dwr, diogelu’r amgylchedd a gwasanaeth i gwsmeriaid, yr ydym wedi cyflawni yn 2007/08 ganlyniad cyffelyb i’r flwyddyn flaenorol, ar 89% o’r sgor uchaf posibl ar gael. Fe gafodd gwell perfformiad gyda gostwng nifer y llifogydd carthffosydd ac achosion o lygredd difrifol eu gosod yn erbyn perfformiad is ar gydymffurfiad a mesurau ansawdd dwr, yn ogystal a’r colli cyflenwad a ddioddefwyd gan 3,425 o gwsmeriaid ar ol i’n gwaith trin dwr yn Whitbourne orlifo ym mis Gorffennaf ‘llynedd.
- Y mae ymchwil annibynnol, cyson o farn cwsmeriaid a gynhelir gan Ymchwil Beaufort yn dangos bod boddhad cwsmeriaid gyda’r gwasanaeth a ddarperir gan Dwr Cymru Welsh Water yn parhau’n sefydlog ar lefelau uchel iawn – gyda mwy nag 80% o gwsmeriaid naill ai’n “fodlon” neu’n “fodlon iawn”. Y mae cwsmeriaid yn ystyried y gwerth am arian a ddarperir gan Dwr Cymru Welsh Water uwchlaw’r hyn a ddarperir gan gwmniau cyfleustodau eraill yng Nghymru, a gwmpaswyd gan yr arolwg.
- Y mae sefyllfa hylifedd y cwmni yn gryf, gydag arian parod o £124 miliwn a chyfleusterau banc rhwymedig heb eu codi o £345 miliwn, fel ag ar yr 31ain o Fawrth, 2008.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a swyddfa gwasg Dwr Cymru Welsh Water ar 02920 556140.
|