Hafan  |  Fy Nghyfrif / Preswyl  |  Talu Bil Ar-lein  |  Trefnu Debyd Uniongyrchol

Trefnu Debyd Uniongyrchol



Beth yw manteision trefnu Debyd Uniongyrchol?

  • Cewch dalu eich bil fesul tipyn (heb dalu ceiniog yn rhagor).
  • Nid oes angen talu i drefnu hyn.
  • Ni fyddwch chi’n methu’ch taliadau.
  • Does dim costau postio.
  • Does dim gwaith papur.
  • Does dim angen mynd i’r banc.
  • Mae’n ddiogel ac yn sicr.
  • Mae’r Warant Debyd Uniongyrchol yn eich amddiffyn rhag unrhyw daliadau gwallus ac er bod hynny’n annhebygol o ddigwydd, cewch chi’ch arian nôl os oes camgymeriad yn codi.
  • Os byddwch chi’n penderfynu nad yw’r Debyd Uniongyrchol yn eich siwtio chi, mae’n hawdd newid nôl i ddull arall o dalu.


Sut i drefnu Debyd Uniongyrchol?

Arlein

Post


*Os bydd eich banc / cymdeithas adeiladu angen mwy nag un llofnod, rhaid llenwi’r mandad Debyd Uniongyrchol uchod.



A oes rhywun arall yn talu ar eich rhan?

Os oes partner, perthynas neu gymydog wedi cytuno i dali eich bil dŵr, bydd angen iddyn nhw gysylltu â ni i drefnu Debyd Uniongyrchol. Y rheswm am hyn yw bod angen i’r person a enwir ar y cyfrif banc/cymdeithas adeiladu gadarnhau y cawn ni godi’r taliadau.



Pa mor aml y cewch dalu trwy Debyd Uniongyrchol?

Gall cwsmeriaid heb fesurydd dalu:

  • Yn llawn ar 1 Ebrill, neu
  • Mewn dwy ran ar 1 Ebrill ac 1 Hydref, neu
  • Mewn deg taliad misol rhwng mis Ebrill a’r mis Ionawr canlynol. Ni fydd angen i chi dalu dim ym misoedd Chwefror a Mawrth (fel taliadau’r Dreth Gyngor)* neu
  • Taliadau wythnosol**.

*Os byddwch chi’n trefnu Debyd Uniongyrchol ar ôl mis Ebrill, caiff eich taliadau eu rhannu dros y misoedd sy’n weddill hyd at y mis Ionawr canlynol (llai na deg mis).

**Os yn trefnu Debyd Uniongyrchol ar ôl Ebrill, lledir eich taliadau dros yr wythnosau dilynol hyd at y mis Mawrth nesaf (llai na 52 wythnos).


Gall cwsmeriaid â mesurydd dalu:

  • Yn llawn bob chwe mis (pan gewch chi’ch bil), neu
  • Deuddeg taliad misol (talu wrth fynd), neu
  • Taliadau wythnosol.


Ar ba ddyddiad y cewch chi dalu?

Misol

  • Talu ar un o bedwar dyddiad: diwrnod 1, 8, 15 neu 23 bob mis.

Os bydd y dyddiad ar benwythnos neu ŵyl banc, cymrir y taliad ar y diwrnod gwaith nesaf.

Wythnosol

  • Talu ar un o bum diwrnod: Llun, Mawrth, Mercher, Iau neu Gwener bob wythnos.

Os bydd y dyddiad ar ŵyl banc, cymrir y taliad ar y diwrnod gwaith nesaf.



Diddordeb? Gallwch drefnu Debyd Uniongyrchol heddiw wrth lenwi ffurflen Debyd Uniongyrchol arlein (talu bob blwyddyn, chwe mis neu fis) neu ffurflen Debyd Uniongyrchol wythnosol.