Cymorth i Dalu’ch Bil
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich bil, rhowch wybod ni cyn gynted ag y gallwch chi, a byddwn ni’n ceisio dod o hyd i ffordd i’ch helpu chi.
Am dalu eich bil dros gyfnod? Trefnu cynllun talu fel isod:
Yn cael trafferth gyda’ch rhandaliadau?
Peidiwch ag anwybyddu problemau talu. Cysylltwch â ni ar unwaith. Efallai y bydd modd i ni gynnig cynllun talu arall ar eich cyfer sy’n fwy fforddiadwy, ac a fydd yn hwyluso pethau i chi.
Neu os oes problem benodol yn eich atal chi rhag ein talu ni, fel salwch neu anabledd, cewch ein talu ni trwy ddull arall sy’n fwy hwylus i chi.
Mae nifer o gynlluniau gennym i wneud biliau’n fwy fforddiadwy:
- Talwch eich biliau dŵr yn awtomatig trwy eich budd-daliadau trwy ein cynllun Dŵr Uniongyrchol a byddwn ni’n torri £25 oddi ar eich bil!
- Mae ein cynllun Cymorth Dŵr Cymru syn gosod terfyn o £256 ar eich bil, a allai ei leihau.
- Mae’r Y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid yn eich galluogi i dalu symiau fforddiadwy dipyn wrth dipyn ac yn eich helpu chi i glirio unrhyw symiau sy’n ddyledus.
Ydych chi’n gymwys ar gyfer unrhyw un o’r cynlluniau hyn?
Atebwch y cwestiynau hyn i weld a ydych chi’n gymwys:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Budd-dal y Dreth Gyngor (nid am fod yn unig ddeiliad na rhyddhad i bobl anabl)
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
- Budd-dal Tai
- Credyd Trethi Plant (heblaw’r elfen deuluol)
- Credyd Treth Gwaith
A
| Cwestiwn |
Oes |
Nac oes |
| C2. Oes gan unrhyw un sy’n byw yn eich cartref unrhyw un o’r anhwylderau meddygol canlynol sy’n golygu eich bod chi’n defnyddio mwy o ddŵr? |
Efallai y byddwch chi’n gymwys ar gyfer Cymorth Dŵr Cymru.
Darllenwch ac argraffwch ein
application form |
Ewch i C3 |
- Anymataledd
- Colitis briwiol
- Digeniad (afiechyd croen caenog)
- Methiant yr arennau – sy’n gofyn am ddialysis cartref (ac eithrio lle bo’r awdurdod iechyd yn cyfrannu at gost y dialysis)
- Stoma abdomenol
- Afiechyd Crohn
- Afiechyd wylofus y croen (eczema, psorïasis, briwio faricos)
- Unrhyw anhwylder arall sy’n galw am ddefnydd helaeth o ddŵr
NEU
Mae’r cwmnïau hyn yn cynnig cyngor annibynnol, diduedd a chyfrinachol yn rhad ac am ddim...