Cwestiynau am Ansawdd Dŵr -
Cliciwch ar y 4 cwestiwn cyffredin isod i weld yr atebion:
Mae’n fwy na thebyg bod rhywbeth wedi aflonyddu ar y dyddodion yn y pibellau dŵr. Gall hyn ddigwydd pan fo’r brif bibell ddŵr wedi cael ei diffodd ar gyfer gwaith cynnal a chadw neu mewn argyfwng. Rydyn ni’n diweddaru ein gwefan drwy’r amser, cliciwch ar Gwaith Cynlluniedig neu Gwaith Brys i gael rhagor o wybodaeth.
Er gwaethaf ei liw, mae’n annhebygol iawn y bydd y dŵr yma’n niweidio’ch iechyd. Ond ni fyddem yn disgwyl i neb ei yfed os nad yw e’n edrych yn ddymunol. Dylech redeg y tap am ychydig funudau a dylai’r dŵr glirio’n gymharol gyflym. Mewn ambell i achos, mae’n bosibl y bydd angen i chi redeg y tap am ryw 45 munud cyn iddo glirio.
Peidiwch â golchi dillad nes bod y dŵr yn glir, ond os ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, a bod y dŵr wedi staenio’r dillad, golchwch nhw eto ar ôl i’r cyflenwad glirio. Os oes staen ar y dillad o hyd ar ôl i chi eu golchi eto, cadwch y dillad a ffoniwch ni ar 0800 052 0130
Os ydych chi’n poeni ac nad yw’r dŵr wedi clirio, ffoniwch ni ar 0800 052 0130
Mae’n annhebygol dros ben bod hyn yn gysylltiedig ag ansawdd eich cyflenwad dŵr.
Beth rydych chi’n ei weld yw math o lwydni sy’n ffynnu mewn llefydd llaith a chynnes – yn debyg i’r llwydni sy’n gallu tyfu ar arwynebeddau’r gegin neu’r ystafell ymolchi e.e. ar deils, sestonau tŷ bach, neu lenni cawod. Mae’r llwydni yma’n hoffi tyfu yn eich tapiau hefyd.
Gall glanedyddion cyffredin ddatrys y broblem dros dro, ond ni fydd hyn yn cael gwared ar y llwydni yn llwyr. I wneud hyn, rhaid i chi ladd y llwydni gyda diheintydd cannu. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n defnyddio diheintydd gradd bwyd, neu hylif sterileiddio fel y rhai a ddefnyddir ar boteli babanod ar dapiau a ddefnyddir ar gyfer dŵr yfed.
Un awgrym yw defnyddio hen frwsh dannedd i lanhau’r tu fewn i big y tap gyda’r diheintydd. Dylech adael y tap i redeg am ychydig funudau wedyn er mwyn clirio’r diheintydd a’r llwydni.
Aer yn y system sy’n achosi dŵr cymylog fel rheol. Gall swigod dŵr bychain bach ffurfio yn y dŵr wrth iddo ddod allan o’r tap, sy’n gwneud iddo edrych yn gymylog neu’n llaethog. Mae’r dŵr yn ddiogel i’w yfed er gwaethaf y swigod.
Dyma ffordd o brofi ai swigod yn y dŵr sy’n gwneud iddo edrych yn gymylog –
- Llenwch wydraid â dŵr oer o’r tap.
- Gwyliwch i weld a yw’n clirio o’r gwaelod i fyny.
- Os yw e, swigod sy’n achosi i’r dŵr fod yn gymylog, ac mae’n hollol iawn i’w yfed.
Mae pob math o resymau pam fod aer yn gallu mynd i’r dŵr – weithiau mae hyn yn digwydd am ein bod ni wedi bod yn gweithio ar y prif bibell ddŵr yn y stryd. Gall y gwaith plymio yn yr adeilad ei hun achosi hyn hefyd, yr achos mwyaf cyffredin yw pan fo’r pibellau dŵr oer yn rhy agos at y pibellau dŵr poeth neu’r pibellau gwres canolog. Mae llai o aer hydawdd mewn dŵr poeth nac mewn dŵr oer, felly pan fo’r dŵr oer yn cynhesu yn y bibell, bydd swigod yn ffurfio gan beri i’r dŵr edrych yn gymylog. Os byddwch chi’n rhedeg y tap nes i’r dŵr oeri dylai’r swigod glirio. Er mwyn atal hyn, dylech inswleiddio’r pibellau er mwyn atal y dŵr oer rhag cynhesu.
Os nad yw’r dŵr yn clirio yn ystod y prawf uchod, a bod y dŵr yn gymylog drwy’r amser, yn effeithio ar bob un o’ch tapiau, ac nad yw’r broblem yn effeithio ar eich cymdogion, ffoniwch ni ar 0800 052 0130 i ofyn am gyngor.
Weithiau, mae cwsmeriaid yn sylwi bod blas neu arogl gwahanol ar eu dŵr. Ymysg y disgrifiadau o’r blas a’r arogl mae ‘priddlyd’, ‘mws’ neu gellid dweud bod blas cemegau ar y dŵr.
Dyma ambell i gwestiwn defnyddiol a allai eich helpu chi i ddod o hyd i’r achos:
A yw blas y dŵr wedi newid yn sydyn neu a ydych chi wedi sylwi ar y peth yn cronni dros amser?
A yw’r blas anarferol yno drwy’r amser – neu a yw e’n mynd a dod.
A oes gennych blaen-danc (header tank) sy’n bwydo dŵr oer i’r tapiau dŵr yfed? Os oes e, cymrwch olwg, neu gofynnwch i blymiwr fwrw golwg er mwyn sicrhau bod clawr y tanc yn ei le. Os nad yw’r tanc wedi ei orchuddio, efallai bod rhywbeth wedi syrthio i mewn i’r tanc gan achosi’r blas neu’r arogl anarferol. Os yw hynny’n wir, bydd angen glanhau’r tanc, ei ddiheintio a gosod clawr newydd arno. Dylech ofyn am gyngor plymiwr cyn gwneud hyn.
A ydych chi wedi gwneud unrhyw waith plymio neu adeiladu yn ddiweddar, neu a oes gennych offer newydd? Gallai hyn fod mor syml â chael peiriant golchi newydd neu osod pibell newydd ar eich cyflenwad dŵr yfed neu gael tegell newydd.
- Os nad oes falf ar ben pibell ddŵr eich peiriant golchi er mwyn atal y dŵr rhag dychwelyd ar hyd y bibell, weithiau gall y dŵr sydd wedi bod yn sefyll yn y bibell ffeindio’i ffordd i mewn i’r dŵr sy’n bwydo eich tap gan roi blas ffenol neu TCP i’r dŵr. Gallai hyn fod yn arbennig o amlwg pan fyddwch chi’n gwneud diod gynnes.
- Darnau bychain o bibellau hyblyg o dan y sinc sy’n cysylltu’r tapiau yw achos y problemau o ran blas weithiau. Darllenwch y wybodaeth a ddaeth gyda’r bibell er mwyn gweld a yw sefydliad cydnabyddedig fel y Gwasanaeth Cynghori ar Reoliadau Dŵr (WRAS) wedi ei chymeradwyo i’w defnyddio gyda dŵr o’r brif bibell. Os na, dylech osod pibell gymeradwy yn ei lle. Rydyn ni’n argymell eich bod yn gwirio bod eich offer wedi eu cymeradwyo i’w defnyddio gyda dŵr yfed bob tro y gwnewch chi waith plymio a phob tro y bydd plymiwr yn gwneud gwaith ar eich rhan.
Os oes blas disel neu betrol ar y dŵr, cysylltwch â ni ar unwaith am y gallai hyn fod wedi cael ei achosi gan gwymp e.e. bod rhywun ar eich eiddo neu mewn eiddo cyfagos wedi bod yn gweithio ar gar neu feic modur ac wedi gadael i betrol neu olew suddo i’r ddaear. Gall tanwydd ffeindio’r ffordd trwy’r ddaear a threiddio trwy’r pibellau dŵr plastig. Gallai gymryd ychydig ddyddiau neu ychydig wythnosau i’r tanwydd gyrraedd y bibell ddŵr.
Os ydych chi wedi gwirio hyn oll, ac wedi newid popeth sydd angen ei newid, ond bod y broblem yn parhau, ffoniwch ni ar 0800 052 0130 i ofyn am gyngor pellach.
Cliciwch yma i weld y daflen ar ofalu am y dŵr yn eich cartref neu raglen weledol
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ansawdd dŵr yfed.