Arbed Dŵr

Mae ein cronfeydd ar lefel o 93% ar draws y rhanbarth ar hyn o bryd.

Rydyn ni wedi gweld ein cronfeydd yn cael eu hadlenwi yn ôl yr arfer dros yr hydref a'r gaeaf. Ar hyn o bryd, nid ydyn ni'n rhag-weld y bydd angen gosod unrhyw gyfyngiadau ar ddefnydd ein cwsmeriaid o ddŵr eleni. Byddwn ni'n ceisio rheoli ein hadnoddau yn effeithiol wrth ddynesu at y haf, gan gymryd mantais llawn o'n buddsoddiad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i'n galluogi ni i ddefnyddio ein hadnoddau dŵr yn y ffordd fwyaf hyblyg bosibl.

Ond mae hi'n dal yn bwysig bod ein cwsmeriaid yn defnyddio ddŵr yn ddoeth, ac yn rhan o'n hymgyrch 'Doeth gyda Dŵr'' rydyn ni'n dweud "defnyddiwch cymaint o ddŵr yfed ag sydd ei angen arnoch, ond peidiwch â'i wastraffu."

Mae gan Ddŵr Cymru dros 400 o bobl yn gweithio i leihau gollyngiadau, ac rydyn ni'n hyderus y byddwn yn cyrraedd targed eleni o ran atal gollyngiadau dŵr.

Rydyn ni'n gofyn yn garedig bod cwsmeriaid yn rhoi gwybod i ni am unrhyw ddŵr sy'n gollwng ar ein system fel y gallwn ni leihau unrhyw golledion cyn gynted â phosibl. Ffoniwch ein Llinell Gollyngiadau ar 0800 281 432 a byddwn ni'n mynd ati i'w trwsio cyn gynted â phosibl.

Diweddarwyd 5 Ebrill 2012.

Boed glaw neu hindda, mae defnyddio dŵr yn ddoeth yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud pob dydd er mwyn helpu i drechu effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Dyma’n DEG AWGRYM pennaf:

Image of thumbs up

Glaw neu hindda, mae defnyddio dŵr yn ddoeth yn un o'r pethau y gallwn ni i gyd ei wneud bob dydd er mwyn helpu i drechu effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Dyma'n DEG AWGRYM PENNAF:

 

Image of thumbs up

Defnyddiwch bibell ddŵr neu can dŵr yn yr ardd yn lle taenellwr. Mae’n cymryd deuddydd i deulu cyffredin ddefnyddio’r un faint o ddŵr ag y mae taenellwr yn ei ddefnyddio mewn awr.

 

Image of thumbs up

Defnyddiwch gasgen ddŵr i gasglu ddŵr glaw o'r to er mwyn dyfrio'r ardd, Bydd y gasgen yn llenwi'n rhyfeddol o gyflym yn ystod cawod o law hafaidd.

Image of thumbs up

Wrth brynu planhigion, ystyriwch brynu rhai sy’n defnyddio llai o ddŵr.

Image of thumbs up

Defnyddiwch bibell ddŵr neu gan dyfrio yn lle taenellwr i ddyfrio'r ardd. Mae taenellwr yn defnyddio'r un faint o ddŵr mewn awr ag y mae teulu cyffredin yn ei ddefnyddio mewn dau ddiwrnod.

 

Image of thumbs up

Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd a pheidiwch â dyfrio'r ardd os oes glaw ar y ffordd.

Image of thumbs up

Ystyriwch brynu planhigion sy'n goddef sychder.

Image of thumbs up

Mae pwll nofio 12 troedfedd cyfartalog yn yr ardd yn cymryd 6,000 litr o ddŵr: mae hynny'n ddigon i lenwi 75 bath. Trwy reoli ansawdd y dŵr yn eich pwll yn ofalus, cewch fwynhau'r pwll trwy gydol yr haf, heb orfod ei wacau a'i lenwi dro ar ôl tro.

Image of thumbs up

Peidiwch â threulio mwy na phedair munud yn y gawod. Bydd hyn yn arbed dŵr, amser a chostau ynni.

Image of thumbs up

Peidiwch â gadael y tap yn rhedeg wrth frwsio'ch dannedd, eillio neu olchi'ch dwylo.

Image of thumbs up

Gosodwch fag 'hippo' yn seston eich tŷ bach er mwyn arbed hyd at dri litr o ddŵr bob tro y byddwch yn fflysio. Rhowch alwad i ni ar 0800 052 0138 i archebu bag hippo am ddim.

Image of thumbs up

Trwsiwch unrhyw dapiau sy'n gollwng neu'n diferu.

Image of thumbs up

Peidiwch â defnyddio'ch peiriant golchi neu'ch peiriant golchi llestri nes eu bod yn llawn.