Hafan  |  Gwasanaethau i Ddatblygwyr  |  Gwasanaethau Dŵr  |  Gosod eich Prif Bibell Ddŵr a’ch Gwasanaethau eich Hun

Gosod eich Prif Bibell Ddŵr a’ch Gwasanaethau eich Hun

Gallech chi benderfynu gosod eich prif bibellau dŵr a’ch gwasanaethau eich hun. Yn hyn o beth, gallwch ddewis dylunio ac adeiladu’r prif bibellau eich hun, neu enwebu sefydliad gosod pibellau i wneud y gwaith ar eich rhan.

Fel arall, gallech chi, neu’r sefydliad sy’n gweithredu ar eich rhan ddewis gofyn i ni ddylunio’r gwaith ac adeiladu’r brif bibell ddŵr a’r gwasanaethau eich hun. Dylid nodi fodd bynnag bod yn rhaid i’r gwaith sy’n cael ei wneud o dan y cytundeb gosod gael ei gyflawni gan gwmni cymwys. Cewch geisio achrediad rwy Gynllun Cofrestru’r Diwydiant Dŵr. Bydd ein polisi hunan-osod o gymorth i chi os byddwch chi’n dewis gwneud hyn.

Noder:

  • Er mwyn gwneud cais ar lein, bydd arnoch angen cerdyn credyd neu ddebyd dilys
  • Y Ffi gyfredol i wneud cais (sydd i’w dalu adeg cyflwyno’r cais – ac na ellir ei ad-dalu) yw £2,000/cais
  • Caiff TAW ei ychwanegu at y tâl hwn ar y gyfradd safonol
  • Caiff ffi’r cais ei godi o’r tâl ar gyfer gosod eich prif bibell ddŵr newydd wrth fwrw ymlaen â’r gwaith