Hafan  |  Am y Cwmni  |  Rheoleiddwyr

Rheoleiddwyr

Mae pob agwedd ar berfformiad Dŵr Cymru yn destun prosesau monitro a rheoleiddio tynn. Mae’r rhestr isod yn nodi swyddogaethau a chyfrifoldebau Rheoleiddwyr y cwmni, ynghyd â’r manylion cyswllt.

Ofwat logo

Ofwat

Ofwat yw’r rheoleiddiwr economaidd. Mae’n sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth da am bris teg wrth: bennu terfynau prisiau; sicrhau ein bod yn cynnal ein cyfrifoldebau statudol; diogelu safonau’r gwasanaeth i gwsmeriaid; a hyrwyddo effeithiolrwydd.

Ofwat, Centre City Tower, 7 Hill Street, Birmingham, B5 4UA.
Ffôn: 0121 644 7500, Gwefan: www.ofwat.gov.uk

Consumer Council for Water logo

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr

Y Cyngor sy’n hyrwyddo ac yn cynrychioli buddiannau ein cwsmeriaid yn nhermau prisiau, gwasanaeth a gwerth am yr arian. Mae’n ymchwilio i gwynion cwsmeriaid hefyd.

Ystafell 140, Tŷ Caradog, 1–6 St Andrews Place, Caerdydd, CF10 3BE.
Ffôn: 08457 078267, Gwefan: www.ccwater.org.uk

The Drinking Water Inspectorate logo

Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed

Yr Arolygaeth Dŵr Yfed sy’n sicrhau ein bod yn cyflenwi dŵr yfed diogel sy’n bodloni safonau’r Rheoliadau Dŵr Yfed. Mae’n ymchwilio i gwynion cwsmeriaid a phethau sy’n effeithio ar ansawdd dŵr yfed, neu a allai effeithio arno.

Drinking Water Inspectorate, Room M03, 55 Whitehall, Llundain SW1A 2EY.
Ffôn: 030 0068 6400, Gwefan: www.dwi.gov.uk

Environment Agency Wales logo

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Yr Asiantaeth sy’n monitro ac yn gorfodi cydymffurfiad â’r safonau ansawdd dŵr amgylcheddol. Mae hefyd yn sicrhau bod adnoddau dŵr yn cael eu defnyddio a’u rheoli yn effeithiol.

Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.
Ffôn: 08708 506 506, Gwefan: www.environment-agency.gov.uk

The Welsh Assembly Government logo

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y Cynulliad sy’n sicrhau ein bod yn dilyn deddfwriaeth Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig wrth wneud rheoliadau a chyhoeddi cyfarwyddyd statudol. Mae’r Cynulliad hefyd yn rhoi cyfarwyddyd i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol mewn perthynas â rhaglenni dŵr yfed ac ansawdd amgylcheddol y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth osod terfynau prisiau.

Yr Amgylchedd: Adran Diogelu ac Ansawdd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Ffôn: 029 2082 5111, Gwefan: www.wales.gov.uk