Ni chodir TAW am wasanaethau carthffosiaeth ar hyn o bryd.
Caiff TAW ei ychwanegu at brisiau cyflenwi dŵr cwsmeriaid diwydiannol perthnasol. Diffinnir y rhain yn adrannau 1–5 o Restr Ddosbarthu Diwydiannol Safonol 1980 (SIC):
Adran 1: Diwydiannau sy’n cyflenwi ynni a dŵr.
Adran 2: Echdynnu mwynau ac eithrio tanwydd; gweithgynhyrchu metelau, cynnyrch mwynau a chemegolion.
Adran 3: Nwyddau metel, peirianneg a diwydiannau cerbydau.
Adran 4: Diwydiannau gweithgynhyrchu eraill.
Adran 5: Adeiladu.
Os yw’r cyflenwadau ar gyfer y gweithgareddau diwydiannol perthnasol a gweithgareddau eraill hefyd, codir TAW os yw prif weithgarwch y cwsmer yn dod o fewn yr adrannau uchod.
Mae’r prisiau cyflenwi dŵr ar gyfer pob cwsmer arall ar raddfa sero at ddibenion TAW.
Taliadau eraill
Gellir codi TAW am y gwasanaethau eraill a ddarperir gan y cwmni. Amlinellir y rhain yn ein llyfryn Cynllun Taliadau a byddwn yn hapus i roi manylion os gwneir cais am ddyfynbris.