Cynllun Prentisiaethau Dŵr Cymru 2011
Nodyn: Mae’r Broses Ymgeisio ar gyfer Cynllun Prentisiaid Dŵr Cymru yn 2011 wedi cau.
Mae Prentisiaethau’n ffordd wych o ennill arian, profiad gwaith a sgiliau gwerthfawr. Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o brentisiaethau sy’n agored i bobl o bob oedran.
Mae’r wefan hon yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gynllun prentisiaethau Dŵr Cymru. Erbyn i chi ddarllen drwy’r cyfan, byddwch chi’n gwybod ai prentisiaeth yw’r dewis iawn i chi ai peidio.
Efallai y bydd e, ac efallai ddim. Ond un peth sy’n sicr – gall gwneud cais am brentisiaeth gyda Dŵr Cymru sbarduno’ch gyrfa gydag un o gwmnïau gwasanaethau dŵr mwyaf dylanwadol Prydain.
Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni’n gwerthfawrogi ein prentisiaid a’u cyfraniad at lwyddiant ein busnes. Rydyn ni’n credu taw datblygu a ffrwyno ein pobl ein hunain sydd wrth galon ein llwyddiant.
Rydyn ni’n adeiladu ein busnes trwy ddatblygu doniau ein pobl. Dyma un o’r resymau pam y mae ein cynllun prentisiaethau yn cynnig cyfle gwych i’r bobl iawn sydd â’r awydd i ddysgu a llwyddo. Rydyn ni am weithio gyda phobl sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sydd â’r ymroddiad a’r sbardun i lwyddo.
