Cwestiynau cyffredin
Os ydych chi’n ystyried dilyn prentisiaeth, mae’n naturiol y bydd gennych lawer o gwestiynau. Dyma rai o’r gwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir i Dŵr Cymru i’ch helpu chi ar hyd y ffordd.
C. Beth yw prentisiaeth?
Mae prentisiaeth yn cyfuno swydd dan hyfforddiant strwythuredig ac astudio i ennill cymhwyster cenedlaethol. Mae cyflogwyr ledled Prydain yn cydnabod ein cynllun prentisiaethau ni. Mae prentisiaeth yn cynnig dewis arall yn lle addysg bellach neu mynd yn syth i mewn i swydd.
C. Pwy gaiff ddilyn prentisiaeth?
Caiff unrhyw un sydd dros un ar bymtheg oed wneud cais am brentisiaeth gyda Dŵr Cymru os nad ydynt mewn addysg amser llawn. Rhaid fod gennych o leiaf 3 TGAU neu gymwysterau cyfatebol, a RHAID i 2 o’r rheiny fod mewn Mathemateg a Saesneg. Os ydych chi’n disgwyl canlyniadau’ch arholiadau, byddwn ni’n rhoi cynnig ‘amodol’ i chi, a gaiff ei gadarnhau os byddwch chi’n ennill isafswm y gofynion pan gewch chi’ch canlyniadau.
C. Pa gymwysterau fyddaf i’n eu hennill drwy’r brentisiaeth?
Fe fyddwch chi’n gweithio tuag at amrywiaeth o gymwysterau cydnabyddedig, gan gynnwys Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs). Byddwch yn dilyn nifer o gyrsiau perthnasol gyda chwmnïau eraill hefyd a fydd yn helpu gyda’ch datblygiad technegol a phersonol.
C. Pa mor hir mae’r brentisiaeth yn para?
Gall prentisiaeth Dŵr Cymru bara hyd at bedair blynedd; bydd hyn yn dibynnu ar eich llwybr academaidd.
C. Sut mae gwneud cais?
Mae gwneud cais am brentisiaeth fel gwneud cais am swydd, felly bydd angen i chi ddilyn y broses o wneud cais. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno cais ysgrifenedig, cyflawni amrywiaeth o brofion a dod i gyfweliad.
C. A gaf i fy ystyried am brentisiaeth hyd yn oed os nad oes gen i tri TGAU neu gymwysterau cyfatebol?
Na chewch yn anffodus. Y cymwysterau hyn yw isafswm y gofynion ar gyfer cynllun prentisiaethau Dŵr Cymru. RHAID i’r ymgeiswyr llwyddiannus fodloni’r gofynion hyn ar radd C neu’n uwch, ac yn ddelfrydol, bydd eich llwyddiannau TGAU yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.
