Pan fydd dwr yn dod i mewn i’r ysgol bydd yn llifo drwy’r mesurydd yn y bibell ddŵr. Darllenwch y mesurydd os am wybod faint o ddŵr bydd yr ysgol yn defnyddio.
Mae’r un faint o ddŵr ar y ddaear yn awr ag yr oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl, oherwydd y cylch dŵr.
Mae 70% o’r ddaear o dan ddŵr ond dim ond tua 3% sy’n ddŵr croyw.
Mae llai na chanfed o 1% o’r dŵr croyw hwnnw ar gael i’w ddefnyddio gan blanhigion ac anifeiliaid, yn cynnwys dyn. Mae’r rhan fwyaf o’r dŵr ar ffurf rhew yn ardaloedd pegynau’r de a’r gogledd.
Gallwn fynd heb fwyd am fis, ond heb ddŵr byddem yn marw o fewn wythnos.
Dŵr yw 82% o’ch gwaed
Dŵr yw 72% o’ch ymennydd
Bydd dwy ran o dair o’r dŵr glân fydd yn cyrraedd yr ysgol yn mynd i lawr y toiled.
Syniadau i helpu i arbed dŵr yn yr ysgol a gostwng eich bil!
Hysbysu dŵr yn gollwng o’ch tapiau
Trwsio tapiau sy’n diferu
Troi tapiau i ffwrdd yn iawn – dim diferu!
Sicrhau na fydd toiledau’n defnyddio dŵr yn y gwyliau pan na fydd neb yno
Archebu bagiau hippo ar gyfer toiledau gyda sestonau mawr er mwyn gostwng eich defnydd dŵr
Casglu dŵr glaw mewn casgenni er mwy dyfrio planhigion
Gosod tapiau sy’n troi i ffwrdd yn otomatig
Trefnu taith i un o’n canolfannau addysg er mwyn dysgu mwy am ddefnyddio dŵr yn effeithiol
Dalenni gwaith: Gweld pa mor effeithiol byddwch yn defnyddio dŵr
Taflen: archwiliad dŵr ysgol
Poster: trwsio tap yn diferu ac enillydd gwobr effeithlonrwydd dŵr