RYDYCH YMA > Hafan > Defnyddio dŵr yn effeithiol > Cyngor garddio Laura

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Cyngor garddio Laura

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol
    Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058

Cyngor gardd Laura

Cyngor gardd Laura

Erbyn hyn mae’r pridd yn cynhesu a chwyn yn dechrau ymddangos. Bydd yn bwysig chwynnu’r gwelyau blodau a llysiau’n rheolaidd dros y misoedd nesaf i’w rhwystro rhag tagu rhai o’r planhigion llai cadarn. Bydd hefyd yn helpu i gadw dŵr gwerthfawr yn y pridd.

Mae pridd cynhesach yn symbylu hadau i egino, felly os am osod lawnt newydd neu adnewyddu rhai mannau moel, dyma’r amser i hadu porfa. Gallwch hefyd blannu planhigion unflwydd cadarn fel pabi, glas yr ŷd (cornflower) a limnathes ym mis Ebrill.

Ym maes llysiau gallwch baratoi a phlannu tatws ‘ail gynnar’ a ‘prif gnwd’ erbyn diwedd y mis. Mae paratoi (chitting) yn golygu gosod tatws ar wahân mewn blwch o fewn ystafell i ffwrdd o olau’r haul. Pan fydd y gwreiddiau tua dwy fodfedd o hyd byddant yn barod i’w plannu. O wneud hynny bydd y tatws yn dechrau’n tyfu’n syth gan ddarparu cnwd cynnar.

Plannwch y tatws had oddeutu chwe modfedd i lawr a thua 12–18 modfedd o’i gilydd, mewn tyllau unigol neu ffosydd. Bydd ychwanegu deunydd organig i’r pridd, yn enwedig gwrtaith neu gompost, yn cadw’r pridd yn llaith a helpu’r tatws i ddatblygu gan y byddant yn amsugno tipyn o ddŵr.

Ym mis Ebrill gallwch hefyd blannu betys, rhuddygl, moron, letys a shibwns tu allan. Yn y tŷ gwydr gallwch blannu tomatos, pupur a pherlysiau fel basil – a blodau megis petwnia, lobelia a gold Ffrainc ac Affrica.

Yng ngwelyau’r ardd gallwch docio llwyni sydd wedi gorffen blodeuo, fel clychau aur (forsythia) a Chaenomeles (cwins blodeuog) wrth dorri nôl y blagur. Gyda phlanhigion mawr trïwch ddileu tua phumed ran o’r hen flagur bob blwyddyn wrth eu tocio hyd y llawr. Tociwch blanhigion llai cadarn hyd at flagur ifanc cryf. Yn ogystal, tociwch blanhigion fel lafant i’w rhwystro rhag mynd yn hirgoes ond peidiwch â thocio’r hen ganghennau coed.

Os bydd angen prynu torrwr lawnt newydd, ystyriwch un sy’n torri’r glaswellt yn fân (mulch mower) er mwyn bwydo a chadw’r lawnt yn llaith a gwyrdd drwy’r haf.

Os yn casglu’r glaswellt, gallech osod llafnau’r peiriant yn uwch er mwyn gadael y glaswellt ychydig yn hirach, gan helpu i gynnal y pridd oddi tano ond yn dal i gynnal y lant mewn cyflwr da. Cofiwch roi’r toriadau mewn haenau yn y blwch compost, rhwng deunydd yn cynnwys tipyn o ffeibr, er mwyn osgoi creu pentwr drewllyd!

 

corner

Gwybodaeth bellach

Defnyddio dŵr yn ddoeth

Defnyddio dŵr yn ddoeth

Clic i ddarllen ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 246kb

Bag Hippo

Bag Hippo

Clic i archebu bag ar-lein

DIY water audit - Home

DIY Archwiliad Dŵr i'w Gyflawni yn y Cartref

Clic yma i ddarllen mwy.

DIY water audit - Schools

DIY Archwiliad i'w Gyflawni gan Ysgolion

Clic yma i ddarllen mwy.

DIY water audit - Business

DIY Archwiliad Dwr i'w Gyflawni gan Adeiladau Busnes

Clic yma i ddarllen mwy.