|
Mae cyfnod o law wedi cynyddu’r lefelau yn ein cronfeydd dŵr yn eitha’ sylweddol, ac ar gyfartaledd, mae’n cronfeydd dŵr bellach dros 80% yn llawn. Mae hyn yn fwy na boddhaol am yr adeg o’r flwyddyn.
Fodd bynnag, mae hi’n dal yn bwysig bod ein cwsmeriaid yn defnyddio dŵr yn ddoeth. Mae darogan y bydd y tywydd sych, cynnes yn dychwelyd, ac mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau ein bod yn arbed ein hadnoddau dŵr. Fel rhan o’n hymgyrch ‘Doeth gyda Dŵr’, ‘rydym yn dweud: “Defnyddiwch gymaint o ddŵr yfed ag mae arnoch angen, ond cofiwch beidio â’i wastraffu, os gwelwch yn dda.” Nid ydym wedi cael gwaharddiad ar bibelli dŵr ers 20 mlynedd, ac ‘rydym eisiau iddi barhau felly.
‘Rydym hefyd yn gofyn i gwsmeriaid adael inni wybod os byddant yn gweld dŵr yn gollwng o brif bibell ddŵr drwy ffonio’n Llinell Ollyngiadau ar 0800 281432, ac fe wnawn ei thrwsio cyn gynted ag y gallwn.
Beth bynnag yw'r tywydd, gall pawb ohonom ddefnyddio dwr yn ddoeth bob dydd er mwyn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Dyma ddeg SYNIAD DA: |
1 |
Cyfyngwch ar eich cawod i bedwar munud ac arbedwch ddŵr, amser a chostau ynni. |
2 |
Peidiwch â gadael i’r tap lifo pan ydych yn glanhau’ch dannedd, yn eillio neu’n golchi’ch dwylo. |
3 |
Gosodwch fag ‘hipo, yr arbedwr dŵr’ yn seston eich toiled ac arbedwch hyd at dri litr o ddŵr bob tro ‘rydych yn llifolchi (fflysio). Rhowch alwad ffôn inni ar 0800 052 0138 am eich bag hipo rhad ac am ddim. |
4 |
Defnyddiwch eich peiriant golchi neu’ch peiriant golchi llestri dim ond pan fo ganddynt lwythi llawn. |
5 |
Atgyweiriwch (trwsiwch) unrhyw dapiau sy’n gollwng neu’n diferu. |
6 |
Defnyddiwch bibell llaw neu gan dyfrio yn hytrach na thaenellwr gardd, oherwydd bod taenellwr dŵr yn defnyddio cymaint o ddŵr mewn awr ag y mae teulu nodweddiadol yn ei ddefnyddio mewn dau ddiwrnod. |
7 |
Mae’r pwll nofio cyffredin 12 troedfedd uwchben daear yn cymryd 6000 litr o ddŵr i’w lenwi: mae hynny’n ddigon i lenwi 75 baddon. Fe fydd rheoli ansawdd dŵr eich pwll yn ofalus yn sicrhau y gallwch chi’i fwynhau drwy gydol yr haf, heb ei wagio a’i ail-lenwi dro ar ôl tro. |
8 |
Defnyddiwch gasgen ddŵr i gasglu dŵr glaw o’ch to i’w ddefnyddio ar gyfer dyfrio’r ardd. Fe wna lenwi’n rhyfeddol o gyflym yn ystod cawod haf. |
9 |
Gwrandewch ar ragolygon y tywydd cyn dyfrio planhigion gardd – rhag ofn bod glaw ar ei ffordd. |
10 |
Ystyriwch brynu planhigion nad oes arnynt angen llawer o ddyfrio. |
|