RYDYCH YMA > Hafan > Cwsmeriaid dibreswyl > Ein prisiau

Ein prisiau

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145
Ein prisiau

Mae tri math o brisiau dŵr a charthffosiaeth mesuredig:

Pris mesuredig safonol ble darperir cyflenwad dŵr trwy fesurydd yn destun y telerau ac amodau cymwys. Fel arfer, cyfrifir y prisiau carthffosiaeth ar sail y dybiaeth fod 95% o’r dŵr a gofnodir drwy’r mesurydd yn gwaredu drwy’r carthffosydd. Os yn credu fod llai na 95% o’r dŵr yn gwaredu drwy’r carthffosydd, llwythwch y ffurflen, ei llenwi a’i dychwelyd i ni: Blwch Post 690, Caerdydd  CF23 5WL

Ble na fydd yn ymarferol neu’n rhy ddrud i osod mesurydd, gallwn godi ar sail amcangyfrif pris mesuredig.

Gall cwsmeriaid ddewis pris diwydiannol os yn defnyddio llawer o ddŵr ar un safle a/neu yn gwaredu 100Ml neu fwy o garthion y flwyddyn o un safle. Os yn credu byddech yn elwa o dalu’r prisiau hyn, llwythwch y ffurflen, ei llenwi a’i dychwelyd i ni: Blwch Post 690, Caerdydd  CF23 5WL

Bydd masnachwyr gyda chytundeb i waredu elifiant masnachol yn uniongyrchol neu anuniongyrchol i’r carthffosydd cyhoeddus yn talu ein prisiau elifiant masnachol. Byddant yn talu ein prisiau safonol, neu’r prisiau diwydiannol os yn gwaredu 100Ml neu fwy o garthion y flwyddyn o un safle. Os yn credu byddech yn elwa o dalu’r prisiau hyn, llwythwch y ffurflen, ei llenwi a’i dychwelyd i ni: Blwch Post 690, Caerdydd  CF23 5WL
corner

Gwybodaeth bellach

Cynllun prisiau

Cynllun prisiau

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 173kb

Eich cyflenwad mesuredig

Eich cyflenwad mesuredig

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 123kb