09/02/2010
Dŵr Cymru'n ailstrwythuro er mwyn cyrraedd targedau effeithlonrwydd
Mae Dŵr Cymru am gychwyn ar y cynllun mwyaf i ailstrwythuro'r cwmni ers i Glas Cymru ei brynu a'i droi'n gwmni "nid-er-elw". Mae'n gwneud hynny er mwyn cyrraedd y targedau effeithlonrwydd llymaf a welodd erioed.
Bydd y terfynau prisiau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a bennwyd fis Tachwedd diwethaf gan reoleiddiwr y diwydiant dŵr, Ofwat, yn galluogi Dŵr Cymru i fuddsoddi £1.2 biliwn mewn cynlluniau ansawdd dŵr a gwelliannau eraill. Ond, yn ogystal, mae'n rhaid i Ddŵr Cymru sicrhau gostyngiad o 20 y cant yn ei gostau gweithredu o ddydd i ddydd fel y gall bil y cartref cyffredin ostwng £30 cyn chwyddiant.
Meddai'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Nigel Annett: "Ers ffurfio Glas Cymru yn 2001, rydym wedi cyflenwi gwasanaethau i'n cwsmeriaid trwy ddefnyddio cwmnïau blaenllaw ym maes gweithredu asedau dŵr a charthffosiaeth. Mae United Utilities a Kelda Water Services wedi helpu Dŵr Cymru i sicrhau gwelliant sylweddol yn ansawdd y gwasanaeth a gaiff ein cwsmeriaid.
“Ers 2001, mae United Utilities ac yna Kelda Water Services wedi ein helpu ni hefyd i ostwng ein costau gweithredu fwy nag y gwnaeth yr un cwmni dŵr a charthffosiaeth arall yn y diwydiant dŵr rheoleiddiedig yng Nghymru a Lloegr. Ond er mwyn sicrhau'r gostyngiadau angenrheidiol mewn prisiau dros y pum mlynedd nesaf, bydd raid i ni gymryd cam mawr arall tuag at fod yn fwy cost-effeithlon.
"Dros y naw mis diwethaf, cawsom drafodaethau maith gyda United Utilities a Kelda Water Services, trwy adolygiad pum mlynedd pris a perfformiad y contractau sydd gennym gyda’r ddau gwmni. Rydym yn sylweddoli ac yn gwerthfawrogi eu bod wedi gwneud ymdrechion sylweddol i ddiwallu ein gofynion. Fodd bynnag, ni fu modd cyrraedd cytundeb gyda'r naill gwmni na'r llall ar delerau parhau'r contractau am bum mlynedd arall.
"Yng ngoleuni hyn, rydym wedi dod i gytundeb gyda United Utilities y bydd eu staff yn trosglwyddo i Ddŵr Cymru o fewn dau neu dri mis, neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny. Ni chafwyd cytundeb gyda Kelda Water Services ac mae'r trafodaethau'n parhau. Yn y cyfamser, bydd Kelda Water Services yn parhau i redeg ein hasedau dŵr gwastraff o dan delerau eu contract gyda Dŵr Cymru.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau gostyngiad o 20 y cant yn ein costau rhedeg o ddydd i ddydd. Fe wnawn hyn trwy fanteisio ar y buddsoddiad mawr a wnaethom yn ddiweddar yn y dechnoleg newydd, trwy gael gwared ag unrhyw ddyblygu gwaith ar lefel rheolwyr, a thrwy fuddsoddi mewn "ynni gwyrdd" a phrosesau i leihau costau trydan. Mae hyn yn golygu cryn dipyn o wariant i'r cwmni, sef rhan o'r rhaglen fuddsoddi gwerth £1.2 biliwn a fwriedir i wella gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf.
"Yn ogystal, dros y pum mlynedd nesaf, bydd angen tua 300 yn llai o bobl i gyflenwi gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff i gwsmeriaid Dŵr Cymru. Bwriadwn gydweithio'n agos â'n staff a'n cydweithwyr yn yr undebau llafur i sicrhau'r gostyngiad hwn yn raddol trwy gyfuniad o ymddeol, trosiant staff naturiol ac ymadael gwirfoddol.
"Bydd y newid hwn yn un o sawl her y byddwn yn eu hwynebu dros y pum mlynedd nesaf ond ein blaenoriaeth ar hyd yr amser fydd parhau â'r dasg hanfodol o sicrhau gwasanaethau diogel a dibynadwy ar gyfer ein holl gwsmeriaid a gwarchod yr amgylchedd," meddai Mr Annett.
Ers 2001, bu Dŵr Cymru'n eiddo i Glas Cymru sy'n gwmni "nid-er-elw". Mae'r cwmni'n cyflenwi gwasanaethau dŵr yfed a glanweithdra i dros dair miliwn o bobl yng Nghymru a rhai ardaloedd dros y ffin yn Lloegr.
Diwedd
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg Dŵr Cymru ar 02920 556140.
Nodiadau i Olygyddion:
- Ffurfiwyd Glas Cymru ym mis Ebrill 2000 yn unswydd er mwyn prynu Dŵr Cymru. Mae'n 'gwmni cyfyngedig trwy warant' ac fe'i cofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985. Nid oes cyfranddalwyr gan Glas Cymru. Yn hytrach, mae gan yr Aelodau swyddogaeth bwysig o ran llywodraethu corfforaethol ond nid ydynt yn derbyn buddrannau ac nid oes ganddynt fuddiant ariannol arall yn y Cwmni. Mae'r strwythur corfforaethol hwn yn sicrhau bod yr holl arian sydd dros ben yn cael ei gadw a'i ailfuddsoddi er budd Dŵr Cymru a'i gwsmeriaid.
- Mae cyfansoddiad Glas Cymru yn golygu mai ei unig bwrpas yw ariannu asedau dŵr ym maes gweithredu Dŵr Cymru a rheoli busnes Dŵr Cymru fel bod gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth o safon uchel yn cael eu cyflenwi am y gost isaf i'r cymunedau y mae Dŵr Cymru'n eu gwasanaethu. Ni chaiff Glas Cymru arallgyfeirio i weithgareddau masnachol anghysylltiedig.
- Ar 26 Tachwedd 2009, cyhoeddodd rheoleiddiwr y diwydiant dŵr, Ofwat, ei Benderfyniad Terfynol ynglŷn â therfynau prisiau, safonau gwasanaeth a lwfansau buddsoddi ar gyfer y cyfnod hyd at 2015. Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, penderfynodd Dŵr Cymru beidio ag apelio yn erbyn y penderfyniad i'r Comisiwn Cystadlu.
- Ar gyfartaledd, bydd biliau domestig ein cwsmeriaid dŵr a charthffosiaeth yn gostwng tua £30, cyn chwyddiant, dros y cyfnod hyd at 2015. Fodd bynnag, bydd yr effaith ar filiau cwsmeriaid unigol yn amrywio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bwriadwn gynnal rhaglen buddsoddi cyfalaf gwerth tua £1,200 miliwn – sy'n cyfateb i dros £1,000 i bob cartref.
