09/03/2010

Mae Glas Cymru yn penodi Darpar Gadeirydd

Mae Glas Cymru Cyfyngedig, perchennog nid-er-elw Dŵr Cymru Welsh Water, y cyfleustod sydd wedi’i leoli yng Nghymru, heddiw’n cyhoeddi penodiad Bob Ayling fel Darpar Gadeirydd.  Fe fydd yn olynu’r Arglwydd Burns (a gyhoeddodd ei fwriad i roi’r gorau iddi mewn cyfarfod o Aelodau Glas Cymru ym mis Rhagfyr) ar ôl Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y cwmni ym mis Gorffennaf, 2010.

Fe ddywedodd John Bryant (Uwch-Gyfarwyddwr Annibynnol): “Mae Bob wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol Glas Cymru am bron ddwy flynedd, yn ystod pryd y mae wedi gwneud cyfraniad rhagorol.  Fe ddaw â gwybodaeth am lywodraeth a rheoleiddio, yn ogystal â phrofiad o weithredu sefydliad mawr sy’n rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid.  Mae hyn yn amser o her a newid sylweddol i’r busnes, ac mae’r Bwrdd wrth ei fodd o gael rhywun o  safon Bob yn Gadeirydd.”

Fe gafodd Pwyllgor Penodiadau’r Bwrdd, dan arweiniad John Bryant, ei gynghori drwy gydol y broses gan gwmni annibynnol blaenllaw o ymgynghorwyr recriwtio. 

Diwedd

Ymholiadau i swyddfa gwasg Dŵr Cymru Welsh Water ar 029 2055 6140.

Nodiadau’r Golygyddion:

  1. Fe ffurfiwyd Glas Cymru ym mis Ebrill 2000 gyda’r unig ddiben o gaffael Dŵr Cymru Welsh Water.  Mae’n ‘gwmni cyfyngedig trwy warant’, a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 1985.  Nid oes gan Glas Cymru gyfranddalwyr.  Yn hytrach, mae Aelodau’n cyflawni swyddogaeth bwysig o lywodraethu corfforaethol ond nid ydynt yn derbyn buddrannau ac nid oes ganddynt ychwaith unrhyw fuddiant ariannol arall yn y Cwmni.  Mae’r strwythur corfforaethol hwn yn sicrhau bod yr holl wargedion ariannol a gynhyrchir yn cael eu cadw a’u hail-fuddsoddi er budd a lles Dŵr Cymru Welsh Water a’i gwsmeriaid.

  2. Mae cyfansoddiad Glas Cymru yn cyfyngu’n gaeth ar ei ddiben i’r diben o ariannu asedau dŵr yn ardal cyfrifoldeb Dŵr Cymru Welsh Water a rheoli busnes Dŵr Cymru Welsh Water fel bod gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth o ansawdd uchel yn cael eu darparu ar y gost leiaf i’r cymunedau a wasanaethir gan Dŵr Cymru Welsh Water.  Ni all Glas Cymru arallgyfeirio i weithgareddau masnachol anghysylltiedig eraill.

  3. Fe benodwyd Bob Ayling yn gyfarwyddwr anweithredol Glas Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water ar y 3ydd o Ebrill, 2008.  Mae’n Is-gadeirydd Dyson Limited ac yn Gadeirydd y Ganolfan er Datrys Anghydfod Rhyngwladol.  Yn gyfreithiwr yn ôl ei broffesiwn, gydag 20 mlynedd yn Ninas Llundain ac fel uwch-gynghorydd cyfreithiol i’r llywodraeth yn yr Adran Masnach a Diwydiant, ‘roedd ef yn Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr British Airways ccc o 1993 i 2000.  Mae ef hefyd yn gyn- Gadeirydd Holidaybreak ccc ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol grŵp yswiriant y Royal & Sunalliance Insurance Group.