"DIY" Archwiliad Dwr i'w Gyflawni yn y Cartref |
![]() |
Cyf: OWR 9712
Llwyddom i gynnal cyflenwadau dwr yn ystod sychder 1995 heb unrhyw gyfyngiadau, nid oedd angen gwahardd pibellau dyfrhau. Rydym yn bwriadu gwneud yr un peth yn y blynyddoedd sydd i ddod, beth bynnag fo'r tywydd. Wedi'r cyfan dyma yw ein gwaith a dyma beth rydych yn ein talu i'w wneud.
Ar yr un pryd, rydym yn gwybod eich bod am i ni sicrhau nad ydym yn cymryd mwy o ddwr o'r amgylchedd nag sydd angen. Rydym yn llwyr ymrwymedig i warchod dwr a hybu effeithlonrwydd dwr. Rydym yn parhau i wneud cynnydd da, cynaladwy o ran lleihau gollyngiadau ac yn darparu cyngor i'n cwsmeriaid ar yr un pryd, a lle bynnag y bo'n bosibl, rydym yn cynnig cymorth ymarferol o ran defnyddio dwr yn ddoeth.
Mae ein taflen Archwiliad Dwr i'w Gyflawni yn y Cartref yn dangos i chi sut i ddefnyddio dwr yn fwy doeth yn eich cartref. Mae'n syndod, ond gydag ychydig mwy o waith meddwl mae'n hawdd gostwng y swm o ddwr rydym yn ei ddefnyddio wrth wneud hyd yn oed y tasgau symlaf.
Cliciwch yma i lwytho feriswn PDF y ffurflen i lawr
Tasgau bob dyddRydym yn defnyddio 150 litr yr un o ddwr glan wedi'i drin bob dydd. Felly, ble rydym yn ei ddefnyddio?
Mewn cartref nodweddiadol
Yr Ystafell Ymolchi
Cael bath a chawod
Mae bath yn defnyddio hyd at 80 litr o ddwr ac mae cawod yn defnyddio 35 litr o ddwr.
Mae cawod bwer (cawod sy'n defnyddio pwmp i gynyddu pwysau'r dwr) yn defnyddio bron yr un faint o ddwr a bath. Gall pen cawod sy'n pwmpio llai o ddwr arbed 5 litr yn fwy o ddwr o'i gymharu a chawod arferol.
Fflysio'r toiled
Mae dros draean o'r dwr rydym yn ei gyflenwi i chi yn mynd i lawr y toiled.
Os oes gennych un o'r sestonau mwy ceisiwch osod teclyn yn eich seston i leihau'r llif o ddwr a ddefnyddir bob tro y caiff ei fflysio.
Defnyddio'r basn llaw
Gall tap sy'n rhedeg ddefnyddio hyd at 9 litr o ddwr y funud.
Y Gegin
Defnyddio'r peiriant golchi/peiriant golchi llestri
Golchi llestri
Glanhau llysiau
Yr Ardd
Golchi Car
Mae defnyddio pibell ddyfrhau i olchi eich car yn defnyddio swm cyfwerth a 33 bwcedaid o ddwr.
Gollyngiadau
Mae tua thri chwarter o ollyngiadau yn digwydd ar bibellau Dwr Cymru, a thua chwarter ar bibellau sy'n eiddo i gartrefi a busnesau.
Pibellau cyflenwi sy'n gollwng -
Os oes gennych broblem gyda'ch mesurydd cysylltwch a ni ar 0800 052 0140.
Tapiau sy'n diferu -
Gorlifiadau -
Lleoliad y tap cau -
Diogelu rhag rhew -
Os hoffech gael cyngor ar ddiogelu rhag rhew ffoniwch ein llinell lagio ar Radffon 0800 281 432 i gael ein taflen gyngor "Peidiwch a chracio, lapiwch".
Os bydd angen cyngor pellach arnoch, neu os hoffech i ni ymweld a chi i'ch cynorthwyo i gynnal yr archwiliad Defnyddio Dwr yn Ddoeth hwn, cysylltwch a ni ar Radffon 0800 281 432. |