corner

"DIY" Archwiliad Dwr i'w Gyflawni gan Adeiladau Busnes

DCWW Logo

Cyf: OWR 9720 Rhagfyr 1998

imageEin gwaith ni yn Dwr Cymru yw sicrhau y cewch yr holl ddwr sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, beth bynnag fo'r tywydd, yr amser o'r dydd neu adeg o'r flwyddyn.

 

Llwyddom i gynnal cyflenwadau dwr yn ystod sychder 1995 heb unrhyw gyfyngiadau, nid oedd angen gwahardd pibellau dyfrhau. Rydym yn bwriadu gwneud yr un peth yn y blynyddoedd sydd i ddod, beth bynnag fo'r tywydd. Wedi'r cyfan dyma yw ein gwaith a dyma beth rydych yn ein talu i'w wneud.

 

Ar yr un pryd, rydym yn gwybod eich bod am i ni sicrhau nad ydym yn cymryd mwy o ddwr o'r amgylchedd nag sydd angen. Rydym yn llwyr ymrwymedig i warchod dwr a hybu effeithlonrwydd dwr . Rydym yn parhau i wneud cynnydd da, cynaladwy o ran lleihau gollyngiadau ac yn darparu cyngor i'n cwsmeriaid ar yr un pryd, a lle bynnag y bo'n bosibl, rydym yn cynnig cymorth ymarferol o ran defnyddio dwr yn ddoeth.

 

Mae'n taflen Archwiliad Dwr "DIY" i'w gyflawni gan Adeiladau Busnes yn dangos i chi sut y gallwch ddefnyddio dwr yn fwy doeth.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn hybu mesurau effeithlonrwydd dwr o fewn eich busnes mae'n dechrau gyda chodi ymwybyddiaeth staff.

 

 

Defnydd Dwr Cyffredinol

Ydy eich adeiladau yn defnyddio mwy o ddwr na'r cyffredin?

 

Y defnydd fesul person mewn swyddfa arferol (neu uned ffatri ar ffurf swyddfa) ar gyfartaledd yw 50 litr y person y dydd.

 

  • Beth yw'r defnydd fesul person y dydd yn eich swyddfa chi?
  • A yw'n uwch na'r cyffredin?
  • Gallwch ei gyfrifo o'ch bil dwr diweddaraf.
Dwr a ddefnyddir fesul chwarter (M3) x 1000
Nifer o weithwyr x nifer o ddyddiau
mewn chwarter
=
? litr y person y dydd

 

 

I ble mae'r cyfan yn mynd

Patrwn nodweddiadol o ddefnydd dwr swyddfa


Diagram

 

 

Toiledau ac ystafelloedd ymolchi

plugCaiff dros hanner y dwr rydym yn ei gyflenwi i chi ei fflysio i lawr y toiled neu droethfa.

 

Fflysio'r toiled
Gall seston toiled hyn ddefnyddio hyd at 13 litr bob tro y caiff ei fflysio, tra bod sestonau mwy modern yn defnyddio rhwng 7 a 9 litr bob tro y cânt eu fflysio. Nawr mae modelau fflysio isel ar gael sydd ond yn defnyddio 6 litr bob tro y cânt eu fflysio.

 

Os oes gennych y sestonau mwyaf ceisiwch roi teclyn yn y tanc i leihau'r llif a ddefnyddir bob tro y cânt eu fflysio.

 

Fflysio troethfâu
Defnyddir tua 20% o'r dwr a gyflenwir i swyddfeydd i fflysio troethfâu.

 

Mae'n rhaid gosod teclyn rheoli ar bob troethfa newydd i sicrhau mai dim ond ar ôl cael ei defnyddio y mae'r droethfa yn fflysio, ond mae'r mwyafrif o droethfâu yn fflysio ddydd a nos - gwastraff sylweddol o ddwr.

 

Mae llawer o ddulliau rheoli fflysio ar gael, rhai ohonynt sydd ond yn gweithredu pan gaiff y troethfâu eu defnyddio e.e. synwyryddion is- goch, synwyryddion pwysedd dwr, synwyryddion tymheredd; rhai sy'n gweithredu wrth fynd i mewn i'r ystafell e.e. switsys drws magnetig, pelydrau drws is-goch a'r rhai symlaf sy'n gweithredu drwy ddyfais rheoli amser sylfaenol. Pa fath bynnag o system reoli a gaiff ei gosod mae'n rhaid iddi gydweddu â'ch gofynion.

 

Cael cawod
Gall cawod bwer (un gyda phwmp i gynyddu pwysedd) ddefnyddio bron yr un faint o ddwr â bath - 80 litr o ddwr.

 

Mae cawod arferol yn defnyddio 35 litr o ddwr a gall cawod sy'n pwmpio llai o ddwr arbed 5 litr yn fwy o ddwr o'i chymharu â chawod arferol.

 

Tapiau sy'n rhedeg
Gall tap sy'n rhedeg ddefnyddio hyd at 9 litr o ddwr y funud.

 

Ystyriwch osod tapiau chwistrellu neu dapiau "gwthio" sy'n cau eu hunain neu anogwch staff i osod y plwg yn y basn llaw.

 

 

Y Cantîn

washing machinePeiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi
Mae peiriant golchi yn defnyddio hyd at 80 litr o ddwr y tro p'un a yw'n llawn ai peidio, ac mae peiriant golchi llestri yn defnyddio rhwng 22 a 35 litr y tro.

 

Defnyddiwch lwyth llawn bob tro neu dewiswch y rhaglen economi. Pan fyddwch yn prynu peiriant newydd ystyriwch ddewis model "dwr effeithlon" ECO.


Tapiau sy'n rhedeg
Gall tap sy'n rhedeg ddefnyddio hyd at 9 litr o ddwr y funud.

 

Defnyddiwch bowlen o ddwr neu rhowch y plwg yn y sinc wrth olchi llestri neu baratoi llysiau.

 

 

Cynnal a chadw tir

Mae chwistrellwr dwr yr ardd yn defnyddio rhwng 300 - 650 litr o ddwr yr awr, mwy nag y mae'r cartref arferol yn ei ddefnyddio mewn diwrnod.

 

Mae gor-ddyfrhau yn achosi i wreiddiau dyfu'n fas.

Defnyddiwch bibell ddyfrhau gyda dyfais rheoli, gosodwch gasgen dwr glan gorchuddiwch blanhigion.

 

 

Golchi ceir/faniau

Gall pibell ddyfrhau (15mm) heb ffroenell ddefnyddio hyd at 1000 litr yr awr.

 

Defnyddiwch bibell ddyfrhau gyda dyfais rheoli clicied. Os byddwch yn defnyddio golchfa ceir awtomatig, ceisiwch ddewis un sy'n ailgylchu'r dwr

 

 

Gollyngiadau

Mae tua thri chwarter o ollyngiadau yn digwydd ar bibellau Dwr Cymru, a thua chwarter ar bibellau sy'n eiddo i fusnesau a chartrefi.

 

Pibellau cyflenwi sy'n gollwng - gwiriwch lwybrau mynediad, llwybrau, gerddi am fannau gwlyb anarferol - hwyrach bod gennych ollyngiad ar eich pibell gyflenwi (y bibell sy'n cysylltu'ch adeilad â'n prif bibell gyflenwi). Prawf syml os oes gennych fesurydd dwr yw diffodd pob tap ac offer sy'n defnyddio dwr (gan gynnwys troethfâu) a gwirio nad yw'r mesurydd yn symud. Neu fel arall, darllenwch y mesurydd ar ddiwedd y diwrnod gwaith, ar ôl i bawb adael yr adeilad, ac eto yn y bore cyn i bawb ddechrau gweithio. Os oes gwahaniaeth rhwng y darlleniadau efallai bod pibell yn gollwng - cofiwch ddiffodd unrhyw droethfâu sy'n fflysio'n awtomatig.

 

Rydym yn cynnig 1grantiau atgyweirio ac adnewyddu gollyngiadau i gynorthwyo ein cwsmeriaid ac i helpu i leihau gollyngiadau "ar bibellau cwsmeriaid".

 

Os credwch fod gennych ollyngiad ffoniwch ni ar ein llinell gollyngiadau Rhadffon 0800 281432 - byddwn yn gallu eich helpu.

 

Os oes gennych broblem gyda'ch mesurydd cysylltwch â ni ar 0345 660130.

 

Tapiau sy'n diferu - Gall tap sy'n diferu wastraffu hyd at 30 litr o ddwr bob dydd. Gosodwch wasieri newydd y tu mewn a thu allan i dapiau cyn gynted ag y gwelwch y diferyn cyntaf.

 

Gorlifiadau - gwiriwch bob gorlifiad i sicrhau nad ydynt yn rhedeg yn ddiangen.

 

Lleoliad y tap cau - gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod lle mae'r tap cau, fel y gallwch ddiffodd y cyflenwad dwr i'ch eiddo yn gyflym petai argyfwng.

 

Diogelu rhag rhew - sicrhewch fod yr holl bibellau a thanciau dwr, y tu mewn a thu allan i'r adeilad wedi'u lagio'n ddigonol. Mae lefelau gollyngiadau yn cynyddu'n sylweddol yn dilyn tywydd rhewllyd.

 

Os hoffech gael cyngor ar ddiogelu rhag rhew ffoniwch ein llinell lagio Rhadffon 0800 281432 am ein taflen gyngor "Peidiwch â chracio, lapiwch".