RYDYCH YMA > Hafan > Llyfrgell > Cwestiynau cyffredin

Click here for English version

Click here to subscribe to RSS

Cwestiynau cyffredin

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol
    Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 6058

Dyma rai o’r cwestiynau cyffredin bydd Dŵr Cymru yn derbyn

Question

Pwy sy’n penderfynu beth y gallwn ei godi?

Answer

Ofwat, sef rheoleiddiwr annibynnol y diwydiant dŵr a charthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr sy’n gwneud hyn. Bob pum mlynedd, mae Dŵr Cymru - fel pob cwmni dŵr arall - yn paratoi ei gynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gan nodi’r hyn sydd angen ei wneud, faint y bydd yn ei gostio a beth y bydd yn ei olygu i filiau. Mae Ofwat yn archwilio ac yn herio’r cynlluniau hyn ac yn pennu uchafswm y gall cwmnïau ei godi i gyflawni swm o waith y cytunir arno mor effeithlon â phosibl. Effeithlonrwydd sy’n allweddol a bydd Dŵr Cymru yn gwneud mwy o arbedion nag unrhyw gwmni dŵr arall dros y blynyddoedd nesaf. Ac oherwydd nad oes gennym randdeiliaid, bydd yr arbedion hynny yn mynd yn syth yn ôl i’n cwsmeriaid.

 

Erbyn hyn mae ein cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn gytûn, ac mae Ofwat wedi penderfynu y gallwn gyflawni’r cynlluniau hyn heb i filiau godi ar gyfartaledd. Nid yw hyn yn golygu y byddwn yn buddsoddi llai - i’r gwrthwyneb, yn union fel y pum mlynedd diwethaf, byddwn yn gwario tua £1,000 fesul cartref dros y pum mlynedd nesaf ar atgyweirio a chynnal a chadw’r rhwydwaith o gronfeydd dŵr, gweithfeydd trin, gorsafoedd pwmpio a phibellau gwerth £25 biliwn a ddefnyddiwn i sicrhau eich bod yn cael cyflenwad dŵr o’r radd flaenaf 24 awr y dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn. Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn sicrhau bod Cymru yn parhau i gael yr afonydd a’r dyfroedd arfordirol gorau yn y DU am fod dŵr gwastraff yn cael ei drin i safon uwch nag erioed.

 

Rydym wedi llunio taflen wybodaeth sy’n nodi ar beth y caiff yr arian a rowch i ni wrth dalu eich bil ei wario. Mae copi ar gael ar ein gwefan www.dwrcymru.com neu drwy ein ffonio ar 0800 052 0138.

Question

Ni allaf fforddio talu fy mil dŵr, beth y gallaf ei wneud?

Answer

Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw siarad â ni ar unwaith er mwyn i ni allu dod o hyd iffordd i’ch helpu - y rhif yw 0800 052 6058.

 

Mae nifer o ffyrdd y byddwn yn gallu eich helpu efallai megis trefnu i chi dalu eich bil drwyrandaliadau bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis, neu os ydych yn cael rhai budd-daliadau, yna efallai y byddwch yn gymwys i gael un o’n tariffau is.

 

Er enghraifft os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn, mae’n bosibl i’ch bil dŵr gael ei dalu’n uniongyrchol i ni o’ch budd-dal. Gelwir hyn yn dariff Water Direct a bydd yn lleihau eich bil £25.

 

Yn yr un modd, os ydych yn cael rhai budd-daliadau a bod gennych naill ai tri neu fwy o blant o dan 19 oed sy’n byw gyda chi, yr hawlir budd-dal plant ar eu cyfer, neu os oes cyflwr meddygol ar rywun sy’n byw gyda chi sy’n gofyn am ddefnyddio swm ychwanegol sylweddol o ddwr, yna gallwch fod yn gymwys i gael ein tariff Cymorth Dŵr Cymru. Mae hyn yn golygu mai uchafswm o £228 a delir gennych.

 

Rydym hefyd yn gweithredu Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid a all eich helpu gydag ôl- ddyledion ar eich bil dŵr, yn amodol ar fodloni meini prawf penodol.

 

Ffoniwch ni ar 0800 052 6058 am ragor o wybodaeth.

 

Os bydd angen cyngor annibynnol arnoch, gallwch gysylltu ag asiantaeth gynghori leol megis:

 

Y Llinell Ddyled Genedlaethol

Rhadffon - 0808 808 4000

www.nationaldebtline.co.uk

 

Canolfan Cyngor ar Bopeth

Chwiliwch yn eich ‘yellow pages’ lleol neu gyfeirlyfr lleol Thomson am gyfeiriad a rhifau ffôn

www.citizensadvice.org.uk

 

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol

(Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol Uniongyrchol gynt)

0845 345 4345

www.clsdirect.org.uk

 

Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr (CCCS)

Rhadffon - 0800 138 1111

www.cccs.co.uk

Question

Pam mae fy mil yn seiliedig ar werth ardrethol?

Answer

Seilir biliau dŵr anfesuredig ar werthoedd ardrethol yn bennaf am resymau hanesyddol. Mae Deddfau’r Diwydiant Dŵr 1991 a 1999 yn caniatáu i gwmnïau dŵr gyfrifo biliau dŵr gan ddefnyddio gwerthoedd ardrethol ar gyfer eiddo a adeiladwyd cyn 1 Ebrill 1990, nad oes ynddo fesurydd dŵr.

 

O ran eiddo a adeiladwyd rhwng 1 Ebrill 1990 a 31 Mawrth 2000, seilir eich bil ar werth ardrethol ‘ar gyfartaledd’ y’i defnyddiwn i gyfrifo ein Tâl Safonol.

Question

A allaf newid gwerth ardrethol fy eiddo?

Answer

Yn anffodus, ni allwch newid gwerth ardrethol eich eiddo. Mae’r gwerth ardrethol yn asesiad o werth rhent blynyddol eiddo a wnaed gan eich awdurdod lleol yn 1973. Mae’n seiliedig ar nifer o ffactorau gan gynnwys maint eich eiddo, ei gyflwr cyffredinol a pha wasanaethau lleol sydd ar gael. Diweddarwyd y gwerthoedd hyn yn unol ag unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau newydd hyd at 1990 pan gawsant eu rhewi.

Question

A oes angen i mi ddweud wrthych os bydd band fy nhreth gyngor yn newid?

Answer

Nac oes, nid oes angen i chi ddweud wrthym os bydd band eich treth gyngor yn newid. Y rheswm dros hyn yw am nad yw eich treth gyngor yn effeithio ar yr hyn rydych yn ei dalu am eich gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth.

 

Question

A oes angen i mi dalu taliadau dŵr a charthffosiaeth os wyf yn adnewyddu neu’n addurno fy nhy?

Answer

Oes, chi sy’n gyfrifol am unrhyw wasanaethau dŵr neu garthffosiaeth a gewch. Mae’n rhaid i chi dalu taliadau p’un a ydych yn adnewyddu neu’n addurno eich ty, os yw’n wag ond yn cynnwys rhywfaint o ddodrefn, neu os oes rhywun yn byw yno.

 

Question

A oes gostyngiad ar gael i fyfyrwyr neu bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain?

Answer

Nac oes, nid oes gostyngiadau ar gyfer taliadau dŵr a charthffosiaeth, ond mae ystod o opsiynau talu gennym i helpu i ledaenu cost eich bil.

Question

A fyddwn yn arbed arian pe newidiwn i fesurydd dŵr?

Answer

Os ydych yn defnyddio ychydig iawn o ddwr, efallai y byddai newid i fesurydd dŵr o fudd i chi. Mae’n gweithio yn yr un modd â mesurydd nwy neu drydan ac mae ond yn codi tâl arnoch am y dŵr rydych yn ei ddefnyddio yn ogystal â thaliadau sefydlog. Os hoffech gael mesurydd dŵr ffoniwch ni ar 0800 052 6058.

 

 

corner

Dangos cwestiynau ar:

Os am weld cwestiynau cyffredin ar bwnc penodol, defnyddiwch y ddewislen isod: