RYDYCH YMA > Hafan > Buddsoddwyr > Cyflwyniad

Buddsoddwyr

corner

Cysylltu â ni

  • Adran Trysorlys
    +44 (0)1443 452 060
Buddsoddwyr

Hysbysiad Pwysig


Dosbarthwyd yr wybodaeth yn yr adroddiadau buddsoddwyr yn unol ag amodau’r Cytundeb Telerau Cyffredin, sy’n rheoli oblygiadau’r Cwmni i ddalwyr bondiau a chredydwyr ariannol eraill. Cyfeirir at a bwriedir ar gyfer buddsoddwyr yn y Cwmni. Ni ddylai unrhyw bobl eraill weithredu ar neu ddibynnu arno. Nid yw’r Cwmni yn gwneud unrhyw honiadau o ran cywirdeb y rhagolygon (neu unrhyw wybodaeth arall yn yr adroddiadau hyn, ac eithrio’r hyn a nodir yn y Cytundeb Telerau Cyffredin). Mae’r rhagolygon hyn yn cynnwys elfen o risg ac ansicrwydd am eu bod yn gysylltiedig â digwyddiadau yn y dyfodol. Gallai nifer o ffactorau newid y canlyniadau neu’r datblygiadau yn sylweddol o’r hyn a fynegwyd neu ymhlyg yn y rhagolygon hyn.

Ni ddylid dibynnu ar yr adroddiadau hyn fel canllaw i berfformiad yn y dyfodol, nac wrth bennu os am fuddsoddi yn y Cwmni. Dylid nodi nad yw archwilwyr y Cwmni wedi adolygu’r wybodaeth yn yr adroddiadau hyn. At ddibenion hyrwyddiadau ariannol o dan amodau Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, darperir yr adroddiadau hyn ar sail yr eithriad o fewn Erthygl 69, Gorchymyn (Hyrwyddo Ariannol) 2005, Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (mewn cysylltiad â bondiau a dderbyniwyd i fasnachu ar farchnad berthnasol).

Nid yw’r wybodaeth nac unrhyw farn a fynegir yma’n cynrychioli cynnig cyhoeddus o dan unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol nac yn gynnig i werthu neu’n gymhelliad neu gynnig i brynu unrhyw warantau neu offerynnau ariannol, neu unrhyw gyngor neu argymhelliad mewn perthynas â’r fath warantau neu offerynnau ariannol eraill.

Efallai bydd cyfyngiadau cyfreithiol yn rheoli rhyddhau a darparu’r wefan hon a’i chynnwys mewn awdurdodaethau ar wahân i’r Deyrnas Unedig. Felly, dylai pobl o fewn awdurdodaethau fel hynny sy’n gallu defnyddio’r fath wybodaeth eu hysbysu eu hunain a dilyn unrhyw gyfyngiadau o’r fath. Ni ddarperir y wefan a’r wybodaeth arni i’w defnyddio gan unrhyw berson neu endid sy’n ddinesydd neu’n breswylydd, neu wedi’i leoli mewn unrhyw awdurdodaeth ble byddai eu darparu neu eu defnyddio’n torri cyfraith neu reoliad perthnasol, neu’n gosod cyfrifoldeb cofrestru neu drwyddedu o fewn y fath awdurdodaeth ar y Cwmni a/neu unrhyw is-gwmni neu gwmni cysylltiedig â’r Cwmni.

 

corner

Adroddiadau buddsoddwyr

Clic yma i gydnabod a chytuno i fynd ymlaen ar sail yr hysbysiad pwysig ar y dudalen hon.


corner

Gwybodaeth bellach

Bond prospectus 2006

Click here to view an Acrobat PDF version of this report.

File size: 2107kb

Adroddiad a Cyfrifon

Clic yma

Glas Cymru adopts International Financial Reporting Standards (IFRS)

Click here to view an Acrobat PDF version of this report.

File size: 232kb

Adroddiadau Asiantaethau Credyd-raddio

Clic yma

Dwr Cymru (Financing) Limited – accounts for the year ended 31 March 2007

Clic yma