Oes modd anfon ebost i ofyn cwestiynau pellach neu holi am fy nghais?
Oes. Anfonwch ebost at: recruitment@dwrcymru.com
Fydd cyfle i symud o gwmpas y cwmni a’i bartneriaid?
Bydd. Byddwn yn cymell pawb i symud o gwmpas a phrofi gwahanol feysydd o fewn y busnes. Mae’n bwysig fod pobl yn deall yr amrediad o gyfrifoldebau a meysydd gwaith o fewn y busnes.
Fyddwch yn talu treuliau ail-leoli?
Byddwn yn ceisio hwyluso eich trefniadau symud, gan roi cyngor ar asiantaethau gosod tai a helpu gyda threuliau pan fo angen.
Beth yw dyddiad cychwyn eich rhaglen graddedigion?
Bydd y rhaglen yn dechrau ym Medi 2008, ond gallwn dderbyn graddedigion cyn hynny
Beth fydd yn digwydd yn ystod y cyfnod sefydlu 2 wythnos?
Byddwch yn cyfarfod â phob tîm yn gweithio o fewn Dŵr Cymru, o gyllid i strategaethau asedau, ynghyd â dysgu am gynnwys y rhaglen a dulliau gweithredu’r busnes.
Beth yw’r graddau addas?
Byddwn yn edrych am raddau da mewn amryw bynciau, yn cynnwys peirianneg, gwyddoniaeth a gwyddorau amgylcheddol. Nid yw’r math o radd mor bwysig â brwdfrydedd a gallu i addasu i gwrdd â gofynion y rôl.