Byddwn yn cymryd rhai mesurau cynnar er mwyn diogelu cyflenwadau dŵr ein cwsmeriaid, gan y rhagwelir haf hir, cynnes a sych eleni.
‘Rydym yn mynd i:
trosglwyddo cyflenwadau dŵr i’r cwsmeriaid hynny sydd fel arfer yn cael eu cyflenwi gan Gronfa Ddŵr Talybont i Gronfa Ddŵr Llandegfedd, ger Pont-y-pŵl;
cynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol ar ein system Prif Bibell Ddŵr Taf.
Fe effeithir ar gyflenwadau dŵr yn yr ardaloedd a restrir isod gan y newidiadau hyn:
Fe fydd gwaith yn dechrau yn go fuan. Os ydych yn gweld afliwiad dros dro yn eich dŵr tap, a fyddech cystal ag agor tap dŵr oer (fel arfer, eich tap yn y gegin) tan y bydd y dŵr yn clirio. Fe wnawn, serch hynny, bopeth y gallwn ni i atal hyn rhag digwydd.
Mae’n annhebygol y bydd yn rhaid inni ofyn am gael dod i mewn i’ch eiddo i wneud y gwaith hwn, ond os yw rhywun yn galw heibio, gwnewch yn sicr bod ganddynt eu Cerdyn Adnabod yn dangos eu bod o Dŵr Cymru Welsh Water – ac fe allwch ei wirio drwy ffonio’n Llinell Gymorth rhag Gofalwyr Ffug sydd ar gael bedair awr ar hugain y dydd ar 0800 281 141.
‘Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anhwylustod dros dro y gall y gwaith hwn ei achosi, ac ‘rydym yn eich sicrhau ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n gwneud y gwaith hwn i ddiogelu’ch cyflenwadau dŵr am y misoedd sydd i ddod.
Os hoffech gael cynghorion ynglŷn â sut i leihau gwastraff dŵr yn ac o amgylch y cartref, fe allwch ganfod y rhain drwy glicio ar y ddolen yn yr hafan.