Byddwn yn cyflenwi dros 900 miliwn litr o ddŵr y dydd i gartrefi a busnesau yn ein hardal. Mae rheolaeth dynn ar gyflenwadau dŵr oherwydd eu pwysigrwydd yn nhermau iechyd y cyhoedd. Mae llawer o’n gwaith yn destun gofynion statudol o dan reolaeth yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.
Clic yma am fanylion pellach am eich cyflenwad dŵr.
Dyma atebion i rai cwestiynau cyffredin am eich cyflenwad dŵr.
Dim dŵr o’r tap, beth nesaf?
Os ydych newydd symud i mewn i adeilad neu wedi gwneud gwaith yno, sicrhewch nad yw’r stoptap mewnol / allanol wedi’i droi i ffwrdd.
Ydych chi wedi derbyn cerdyn gennym yn eich hysbysu o waith cynnal a chadw hanfodol fydd yn ymyrryd â’r cyflenwad? Am gymorth pellach galwch 0800 052 0130. Cofiwch edrych i weld os oes rhywun yn gweithio yn y stryd a allai fod wedi ymyrryd â’r cyflenwad a holi cymdogion eraill os ydynt wedi sylwi unrhyw beth tebyg cyn ein galw – diolch.
Nid oes llawer o ddŵr yn dod allan o’r tap.
Os ydych wedi gwneud gwaith ar eich adeilad, sicrhewch nad yw’r stoptap mewnol / allanol wedi’i droi i ffwrdd.
Efallai fod dŵr yn gollwng o bibell gyflenwi sydd angen ei thrwsio. Edrychwch am arwyddion o leithder neu bydru ac am fannau llaith ar lwybrau a lawntiau. Os yn methu datrys y broblem, neu angen cymorth pellach galwch 0800 052 0130.
Fyddwch yn ein hysbysu os am droi’r dŵr i ffwrdd?
Byddwn yn rhoi rhybudd ysgrifenedig os bydd angen troi i ffwrdd eich cyflenwad am dros bedair awr i wneud gwaith cynlluniedig, a byddwn yn adfer eich cyflenwad erbyn yr amser a nodir ar yr hysbysiad ysgrifenedig.
Yn achos argyfwng, byddwn yn trio mynd o gwmpas i hysbysu’r ardal wrth ddefnyddio corn siarad. Os yn drwm eich clyw, efallai byddwch am gofrestru ar gyfer ein gwasanaethau ychwanegol. Clic yma i ddysgu mwy.
Faint o rybudd cyn troi’r dŵr i ffwrdd?
Byddwn yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o 48 awr os bydd angen gwneud gwaith cynlluniedig fydd yn ymyrryd â’ch cyflenwad am dros 4 awr. Am gymorth pellach galwch 0800 052 0130.
Rwy’n dioddef o gyflwr meddygol sy’n galw am gyflenwad dŵr cyson. Beth ddylwn wneud?
Os nad oes dŵr gennych a’ch bod yn dioddef o gyflwr meddygol sydd angen cyflenwad dŵr cyson, er enghraifft dialysis yn y cartref, galwch 0800 052 0130 am wybodaeth bellach. Gallech hefyd elwa o fynd ar ein cofrestr gwasanaethau ychwanegol. Clic yma am gymorth pellach.
Stopiodd y cyflenwad dŵr ac yn awr mae’r dŵr tap yn fudr?
Gall ddigwydd ar ôl ysgytio’r gwaddod ar waelod pibellau. Dylai glirio ar ôl rhedeg y tap am ychydig funudau. Os na fydd yn clirio galwch 0800 052 0130.
Mae’r cyflenwad wedi’i ailgysylltu ond mae’r dŵr yn gymylog?
Gall ddigwydd os bydd aer yn y dŵr. Mae’n ddiniwed a’r dŵr yn iawn i’w yfed. Os yn llenwi gwydr gyda dŵr dylai glirio o’r gwaelod i fyny. Fodd bynnag, os bydd y broblem yn para mwy na 24 awr, galwch 0800 052 0130.
Grantiau i adnewyddu pibellau plwm?
Na, ni fyddwn yn rhoi grantiau i adnewyddu hen bibellau plwm. Fodd bynnag, mae’n bosibl bydd eich cyngor lleol yn gallu cynnig cymorth.
Gwybodaeth bellach
Ansawdd dwr yfed
Click here to view an Acrobat PDF version of this plan
File size: 147kb
Customer Information Leakage
Click here to view an Acrobat PDF version of this leafet.
File size: 246kb
Water and sewerage services
Click here to view an Acrobat PDF version of this leafet.