RYDYCH YMA > Hafan > Cwsmeriaid preswyl > Eich cyflenwad > Gwaredu dŵr gwastraff

Gwaredu dŵr gwastraff

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145
Gwaredu dŵr gwastraff

Mae’n bwysig trin carthion a dŵr gwastraff yn effeithiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd. O ganlyniad, yn debyg i ddŵr yfed mae rheoliadau cadarn yn y maes yma o dan arolygaeth Asiantaeth yr Amgylchedd.

Er mwyn gwaredu dŵr gwastraff o bob cartref a busnes yn ein hardal, rydym yn cynnal dros 19,000 cilomedr o garthffosydd a mwy na 800 gwaith trin dŵr gwastraff.

Am wybodaeth bellach am eich cyflenwad dŵr, clic yma.

Yn anffodus bydd carthffosydd yn gorlifo o bryd i’w gilydd. Rydym yn gweithio’n galed i ostwng y risg o hynny. Er enghraifft, bydd gwaith yn ystod 2005 - 2010 yn taclo problemau llifogydd sy’n bygwth oddeutu 850 adeilad a 400 adeilad arall mewn perygl o ddioddef llifogydd allanol. Dyma’r cwestiynau mwyaf cyffredin am garthffosydd yn gorlifo.

Carthion yn llifo i mewn i’ch cartref neu ar yr ardd?

Galwch 0800 085 3968 yn syth (llinell yn agored 24 awr, 7 dydd yr wythnos).

Arogl gwael o’r draeniau?

Gall awgrymu fod rhywbeth yn rhwystro’r llif neu fod seliau dŵr yn y rhigolau draenio heb sychu, sy’n gallu arwain at arogl yn dianc drwy’r carthffosydd yn hytrach na’r bibell awyru. Galwch 0800 085 3968 (llinell yn agored 24 awr, 7 dydd yr wythnos) a byddwn yn ymchwilio’r mater.

Beth allaf wneud i helpu?

Er mwyn gostwng y risg o garthffosydd yn gorlifo, awgrymwn eich bod yn atal rhag gwaredu eitemau megis condoms, tywelion misglwyf a chewynnau i lawr y toiled.
corner

Gwybodaeth bellach

Côd Ymarfer Carthion yn llifo o garthffosydd cyhoeddus

Gofal Llifogydd

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 173kb