Mae Dŵr Cymru am i chi deimlo gallwch ddibynnu ar eich cyflenwad dŵr a’r gwasanaeth carthffosiaeth. Ein nod yw gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf, bob amser. Rydym yn falch o ddweud mai dyna sy’n digwydd gyda’r mwyafrif helaeth o’n cwsmeriaid.
Rydym yn darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer 1.2 miliwn cartref yng Nghymru a dros y ffin mewn rhai ardaloedd cyfagos yn Lloegr. Os yn un o’n cwsmeriaid, rydym yn gobeithio bydd y tudalennau hyn yn cynnwys y cyngor a’r wybodaeth angenrheidiol ar eich cyfer.
Nifer o wasanaethau cwsmeriaid, yn cynnwys talu biliau ar-lein, hysbysu newid cyfeiriad a chyflwyno darlleniad mesurydd.
Gallwch hefyd ddysgu mwy am ein gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid gydag anghenion ychwanegol (yn cynnwys biliau print mawr, ailgyfeirio biliau a’r cynllun cyfrinair) a’n prisiau cyfredol.
Manylion am sut byddwn yn cyflenwi d ŵr i’ch cartref, beth fydd yn digwydd i’r dŵr ar ôl ei ddefnyddio a diogelwch dŵr yfed. Gallwch hefyd ddysgu mwy am arbed dŵr o gwmpas eich cartref.