RYDYCH YMA > Hafan > Cwsmeriaid preswyl > Eich cyfrif > Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic i anfon ebost neu ffonio 0800 052 0145

Rhai o’r cwestiynau cyffredin bydd Dŵr Cymru yn derbyn

Question

Pam yw’r costau dŵr wedi codi?

Answer

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth diogel a dibynadwy sy’n cynnig gwerth da am yr arian i chi.

 

Eleni, mae terfynau prisiau Ofwat yn caniatáu codi ein prisiau er mwyn ariannu ein cynllun buddsoddi cyfalaf pum mlynedd gwerth £1.2 biliwn. Bydd yn golygu cynnydd gwmpas 7.8% mewn biliau preswyl mesuredig cyfartalog eleni, yn cynnwys 4.28% am chwyddiant.

 

Fodd bynnag, mae eich bil £21 (£10.50 dŵr, £10.50 carthffosiaeth) yn llai na’r pris a ganiatawyd gan Ofwat. A Dŵr Cymru yw’r unig gwmni dŵr sy’n talu buddran fel hyn i’w gwsmeriaid.

 

Am fanylion pellach am y prisiau newydd, galwch ni ar 0800 052 0138 a gofyn am gopi di-dâl o Adolygiad Prisiau 2005-2010.
Question

Beth yw Buddran Cwsmeriaid eleni?

Answer

Fel y gwyddoch, mae Dŵr Cymru yn gwmni un diben a redir er lles ei gwsmeriaid. Nid oes cyfranddalwyr gennym. Byddwn yn canolbwyntio ynni ac ymdrechion y cwmni ar ddarparu gwasanaeth dibynadwy a rhoi gwerth da am yr arian i chi.

 

Yn absenoldeb cyfranddalwyr, gallwn ail-fuddsoddi’r holl elw yn y busnes. Felly, yn hytrach na thalu buddran i gyfranddalwyr, byddwn yn talu buddran i chi ac yn tynnu’r swm o’ch bil.

 

Buddran eleni – a nodir ar eich bil – yw £21 (£10.50 dŵr, £10.50 carthffosiaeth). Rydym yn bwriadu talu buddran flynyddol i chi am y tair blynedd nesaf.
Question

Beth yw’r gwerth trethiannol a pham ydych yn seilio fy nghostau arno?

Answer

Mae’r gwerth trethiannol yn asesiad o werth rhent blynyddol adeilad a wnaed gan Awdurdodau Lleol yn 1973, a ddiweddarwyd yn 1990. Seilir ar nifer o ffactorau yn cynnwys maint adeilad, y cyflwr cyffredinol a darpariaeth gwasanaethau lleol.

 

Rhoddodd Deddf Diwydiant Dŵr 1999 hawl i gwmnïau dŵr ddefnyddio gwerth trethiannol wrth gyfrif biliau adeiladau heb fesurydd dŵr, a adeiladwyd cyn 1 Ebrill 1990. Dyna pam bydd eich bil yn cynnwys ‘gwerth trethiannol’ (rateable value - RV).
Question

Fydd angen eich hysbysu os bydd ein Treth Gyngor yn newid?

Answer

Na, ni fydd angen ein hysbysu os bydd eich cartref yn derbyn band Treth Gyngor newydd. Nid yw eich band Treth Gyngor yn dylanwadu ar eich costau dŵr a charthffosiaeth. Seilir eich costau ar werth trethiannol eich cartref (os adeiladwyd cyn 1 Ebrill 1990) neu ar bris safonol os adeiladwyd wedi hynny.

Question

Oes angen talu costau dŵr a charthffosiaeth os yn adnewyddu fy nghartref?

Answer

Oes, rydych yn gyfrifol am unrhyw wasanaethau dŵr neu garthffosiaeth byddwch yn derbyn. Mae hynny’n cynnwys achosion pan fyddwch yn adnewyddu neu ailaddurno eich cartref, os bydd yn wag (ond yn cynnwys dodrefn) neu pan fydd rhywun yn byw ynddo.

 

Am wybodaeth bellach am ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr dros dro neu osod mesuryddion adnewyddu, galwch ni ar 0800 052 0145 (Llun - Gwener 8.00am - 8.00pm, Sadwrn 8.30am – 1.30pm).
Question

Beth yw draenio dŵr arwyneb?

Answer

Dŵr arwyneb yw’r glaw sy’n disgyn ar adeilad neu ddŵr sy’n draenio i garthffosydd cyhoeddus o weithgaredd megis golchi car.

 

Mae’n bosibl bydd swm am ddraenio dŵr arwyneb ar eich bil. Mae’n cynnwys costau gwaredu a thrin dŵr arwyneb sy’n rhedeg o’ch cartref i mewn i’n draeniau, a’r dŵr yn llifo drwy eich cafnau neu’n rhedeg i’r heol ac i mewn i’n carthffosydd.
Question

Nid oes dŵr glaw o’m cartref yn rhedeg i mewn i’r draeniau. Fydd hynny’n effeithio’r bil?

Answer

Os allwch brofi nad oes dŵr arwyneb o’ch eiddo yn cyrraedd ein draeniau, mae’n bosibl byddwn yn gallu gostwng eich bil. Am becyn gwybodaeth, galwch ni ar 0800 052 0149. Bydd angen dyfynnu eich Cyfeirnod Cwsmer (ar frig tudalen 2), eich enw a rhif ffôn dydd. Yna, byddwn yn anfon pecyn atoch i’w lenwi a dychwelyd i ni.

Question

Oes modd arbed arian wrth osod mesurydd dŵr?

Answer

Os nad ydych yn defnyddio llawer o ddŵr, efallai byddech yn elwa o osod mesurydd dŵr. Mae’n gweithio’n debyg i fesurydd trydan neu nwy ac yn codi am yr union ddŵr a ddefnyddir.

 

Am wybodaeth bellach, galwch ni ar 0800 052 0138 (Llun - Gwener 8am - 8pm, Sadwrn 8:30am - 1:30pm) a gofyn am ein llyfryn di-dâl ‘Gosod Mesurydd Dŵr’.
Question

Oes modd tynnu mesurydd o gartref newydd rwyf wedi prynu?

Answer

Ni fyddwn yn gallu tynnu mesurydd dŵr o gartref newydd. Os yn gwerthu eich cartref, bydd yn werth hysbysu darpar brynwyr fod mesurydd dŵr ynddo.

Question

Nid wyf yn gallu fforddio’r biliau dŵr. Beth allaf wneud?

Answer

Rydym yn deall fod pobl yn gallu wynebu problemau talu biliau dŵr o bryd i’w gilydd. Peidiwch â phoeni. Rydym yma i helpu.

 

Galwch ni ar 0800 052 0145 (Llun - Gwener 8am - 8pm, Sadwrn 8:30am - 1:30pm). Mae’n bosibl byddwn yn gallu trefnu i chi dalu eich bil mewn rhandaliadau bob wythnos, pythefnos neu fis.

 

Os yn derbyn budd-daliadau, efallai byddwch am drafod taliadau uniongyrchol i ni gyda’r asiantaeth fudd-daliadau.

 

Dim ots beth yw eich sefyllfa, mae’n bwysig siarad â ni’n syth. Os na fyddwn yn gwybod am eich sefyllfa, neu’n methu cysylltu â chi i drafod bil dyledus, byddwn yn penodi asiantaeth casglu dyledion yn otomatig. A gallai hynny olygu mwy o gostau i chi.
corner

Gwybodaeth bellach

Cod ymarfer er casglu biliau heb eu talu gan gwsmeriaid preswyl

Cod ymarfer er casglu biliau heb eu talu gan gwsmeriaid preswyl

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 246kb

Addewid i chi ein cwsmer

Addewid i chi ein cwsmer

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 121kb

Eich cyflenwad mesuredig

Eich cyflenwad mesuredig

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 123kb

Eich bil dŵr (anfesuredig)

Eich bil dwr (anfesuredig)

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 246kb

Eich bil dŵr (mesuredig)

Eich bil dwr (mesuredig)

Clic yma am ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 246kb

About your water bill

Click here to view an Acrobat PDF version of this leafet.

File size: 246kb