Mae Glas Cymru yn gwmni nid-er-elw heb gyfranddalwyr a redir er lles ein cwsmeriaid yn unig. Yn dilyn cyfres o hysbysebion cyhoeddus, ym mis Ionawr 2008 penododd Glas Cymru 21 aelod newydd gan ddwyn nifer yr aelodau annibynnol i 72 – sef y nifer cyflawn.
Un o rolau allweddol aelodau Glas Cymru yw sicrhau bydd y busnes yn parhau i ganolbwyntio ar ei brif bwrpas o ddarparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth o safon uchel ar gyfer y cymunedau bydd Dŵr Cymru yn gwasanaethu. Wrth wneud hynny, bydd yr aelodau’n cynnal rôl rheoli gorfforaethol bwysig ac o’r herwydd penodir aelodau am eu nodweddion personol ac nid i gynrychioli unrhyw grŵp arbennig neu ddiddordebau rhanddeiliaid.
Penodir aelodau gan y Bwrdd yn unol â Pholisi Aelodaeth cyhoeddedig Glas Cymru wrth ddilyn cyngor panel dewis aelodau annibynnol. Clic am y rhestr aelodau gyfredol.
Cynhyrchwyd podcast gyda dau o’r aelodau cyfredol er mwyn esbonio mwy am waith aelodau Glas Cymru, Clic i wylio’r podcast.
Rhagwelwn bydd rownd bellach o hysbysebion i recriwtio aelodau newydd yn ystod hydref 2009. Fodd bynnag, os am wybod mwy am fod yn aelod o Glas Cymru cysylltwch â: